Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDALEN WEN RHWNG Y DDAU DESTAMENT. Nid hawdd sylweddoli wrth droi'r ddalen sydd rhwng Malachi a Matthew cyhyd ydyw'r cyfnod rhyngddynt, na chymaint a lliosoced y cyfnewidiadau. Dim ond dalen a'u gwahana, a thybiwn yn fynych fod y newid yn am- gylchiadau'r Iddewon a'u gwlad mor ddibwys a hynny. Ond yn wir newidiwn ddau fyd bron wrth symud o'r Hen Destament i'r Newydd y mae'r cwbl 011 yn newydd ac yn ddieithr. Nid yn unig y mae'r cyfnod sydd rhwng y ddau Destament yn hir, ond y mae ei effaith ar iaith ac arferion ac amgylchiadau gwladol a chrefyddol yn anghredadwy bron. Ac i iawn ddeall a dirnad amser ein Harglwydd, rhaid i ni fedru amgyffred yr Hen Desta- ment a'i ddylanwad ar feddwl y genedl; ac hefyd geisio amgyffred dylanwad ac argraff y cyfnod pwysig o'r dych- weliad o Fabilon hyd ddyfodiad yr Arglwydd Iesu. Cyf- rifir yr amser yna gennym ni fel yr oesoedd tywyll, ac na bu gweledydd na phroffwyd wedi Haggai a Zechariah a Malachi. Tybir yn gyffredin na lefarodd yr Arglwydd ddim ynddo wrth y genedl, ac iddo adael ei hunan ynddo yn ddidyst a'r bobl yr oedd ei Fab i ymddangos yn eu mysg yn ddiarweiniad. Ond y mae i'r oesoedd hyn eu hanes, -haпesι cyffrous, a gwroniaid glewion. Ymladdwyd brwydrau gwaedlyd, cafwyd arweinwyr di-ildio, a gyrr- wyd byddinoedd yr estroniaid i ffoi. Codwyd rhai i symbylu eu cydgenedl a'u tanio i wladgarwch, mewn rhyddiaith a barddoniaeth. Y mae gwleidyddiaeth y cyf- nod yn ddiddorol a phwysig; mae'r llenyddiaeth yn gyf- oethog, a'i ddysgeidiaeth yn werthfawr. Pan gaffer Cyf- ieithiad Cymraeg Diwygiedig o'r Beibl dylai cyfeiriadau Ymyl y Ddalen yn y Testament Newydd ein cyfeirio nid yn unig yn ol i'r Hen ond hefyd i lyfrau'r cyfnod hwn. Dysgai hynny ni hwyrach i werthfawrogi'r oesoedd tywyll" hynny. Teifl yr amser hwn drwy ei hanes a'i lenyddiaeth a'i ddysgeidiaeth oleuni mor llachar ar y Testament Newydd a'i gynnwys nes y mae cenadwri ddwy- fol Duw atom ynddo yn gliriach nag erioed. Cydna- byddir bellach fod argraff y cyfnod hwn yn ddofn ar vr Efengylau a'r Epistolau a'r Datguddiad. O fewn i'r blynyddoedd diweddaf hyn bu rhai o feddylwyr craffaf y