Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

bwysleisio'r person pan na fydd angen. Dadleuir weith- iau ar ba air y dylid rhoddi'r pwyslais yn y gofyniad can- lynol, Luc xxii. 48,­" Ai a chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?" 0 gymeryd y geiriau fel y maent ar ti y mae'r pwyslais i fod, oblegid ei unig neges ef yn y fraw- ddeg yw dangos y pwyslais, ac os nad oes ei angen tywylla y frawddeg yn lIe ei goleuo, a dyna a wna, oblegid y gair i'w bwysleisio yw cusan. Yr hyn oedd fwyaf syn yn ym- ddygiad Judas ydoedd arfer arwydd o gariad i fradychu. Na adawer i fawredd a phwysigrwydd gwirioneddau'r Beibl beri i ni fod yn ddifraw ynghylch yr iaith a wisgant, yn hytrach rhodder iddynt y wisg Gymreig oreu yn bosibl. Llawn haeddant hi. Croesor. H. LEFI JONES. TIR NA N-OG.* YN ei Ragair dywed yr awdur mai sail y gerdd hon yw'r ffurf ar chwedl Osian a geir mewn casgliad bychan o hen chwedlau Gwyddeleg a gafodd Mr. MacGreagoir ar dafod leferydd yn Ynys Rathlin. Dwg Mr. Gwynn Jones hefyd dystiolaeth i'w ddyled i lenyddiaeth Wyddeleg ac ych- wanega a byddai'n hyfryd tros ben gennyf pe gwasan- aethai hyn o gais ar fydru chwedl Wyddeleg yn Gymraeg i ddenu rhai o'm cydwladwyr at hen iaith ardderchog a llenyddiaeth ryfeddol Iwerddon." Mae y gerdd ar gyn- llun newydd a tharawiadol. Y ddau gymeriad pwysig yw Osian y Bardd a Nia Ben Aur, merch Brenin Tir Na N-og. tra y cymerir y Cydgan yn eu tro gan Helwyr, Morfor- wynion a Seiri. Yn Rhan I., mewn llannerch yn y coed yn Ynys Rathlin pan na bo hwyl ar helwriaeth yn hwyr y dydd daw Osian a'r helwyr i'r golwg. Safant i wynebu'r mor. yna Osian a gân,- Diwedd gwael i'n dydd a gaid, A thawodd v bytheuaid Oferedd gennyf aros- Hulio nef mae niwl y ûos, Gan ryw wan gyniwair hyd Wig Rathlin, fel gwe rithlyd; Lliwiwyd y maith orllewin I gyd âg aur, gwaed a gwin; Mor dyner yw'r môr danom, A'i ddẁr hallt fel cleddau rhom. *Tir NA N-OG. (Awdl Delynegol ar Beroriaeth, gan T. Gwynn Jones, M.A. Caerdydd Welsh Outlook Press. Pris 6ch.).