Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Os yw'r llwybr drwy frysglwyni O arferion ffôl,- Dieifl mor aml a'r clogwyni, Byth ni throf yn ol. Creigiau celyd anghrediniaeth Gwrddaf ar fy rhawd, A chorwyntoedd di-lywodraeth Nwydau yn fy nghnawd. Ni'm tarewir â dychryndod Gan ei greigiau cellt,- Gan daranau fy nghydwybod A fflachiadau'r mellt. Mi ymladdaf â gwylltfilod O feddyliau gau,- Ofergoelion yn fwganod Trwy y gwyll yn gwau. Bywyd perffaith di-orwelion Ger fy mron ymdaen, A chyfaredd yr entrychion Yn fy hudo 'mlaen. Yn ei niwl ei hun o danaf Bydd y byd tan glâdd Pendefigion Nef ddont ataf Yno, heb ei gwâdd. Mi echwynaf gan yr engyl Wydrau i wel'd ymhell, I gael gweled yn fy ymyl Yr ardaloedd gwell I gael gweled hen wynebau ` Gollais ennyd awr.' O bydd myrdd o ryfeddodau Ar y mynydd mawr! Birkenhead. ROLANT WYN.