Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wasanaeth ac heb ymgynghori â chig a gwaed, ufudd haodd i'r alwad oruchel yn y fan. Felly, ynteu, y ffordd i adnabod athrylith lenorol yw gwybod grym a swyn y bersonoliaeth sy' tu ol iddi. Os yw hi yno, y mae yn sicr o drydar wrthym, a dyma y ffordd i werthfawrogi teithi llenyddol Llew Llwyfo. Prof- odd ei hun yn llonaid yr enw llenor ym mhob ystyr- nid yn gymaint trwy yr hyn a wnaeth, ond trwy ddangos i ni yr hyn oedd YN BOSIBL iddo ei gyflawni. I. Y LLENOR A'R BARDD. Fel bardd y daeth i sylw gyntaf, a doniol dros ben, a difyr iawn, yw darllen fel y disgrifia ef ei ymdrech fachgen- naidd i godi ei hunan i sylw Ceridwen. Dyma fel y dywed am ei brofiad gyda'r ymdrech honno Pan yn hoglanc gwynebgaled, tybiais yn fy haerllygrwydd fod yn llawn bryd i mi gyhoeddi llyfr. Yr oedd gennyf ar y pryd ychydig o gyfansoddiadau ag y credwn eu bod yn anfarwol. Ond erbyn eu casglu ynghyd, gwelais nad oeddynt yn ddigon i wneud cyfrol o'r pris aruthrol o chwe' cheiniog Felly, dodais i mewn ddau ddarn neu dri o waith y beirdd byd-enwog, Glan Eilian a Macwy Môn Pwy llai na hwynthwy a fuasant yn deilwng o gongl yn fy llyfr barddonol i? Cefais ddigon o ddefnyddiau i wneud llyfr, yr hwn a elwais yn "Awen Ieuanc." Mawr oedd fy llawenydd pan y daeth y gyfrol allan o'r wasg; a mawr oedd gofid a phryder fy mherthyn- asau mwyaf ystyrbwyll yn gystal. Gwerthais tua chan' copi o'r gwaith, ac ym mhen ychydig fisoedd, wedi i mi ddyfod i'm llawn bwyll, bu yn edifar gennyf am fy ngwaith, a ches ddigon o ras i wneud coelcerth iawn o dros fíl o gopïau-yn gymysg â gwellt, pitch, tar, rhedyn ac eithin crin." Wrth son am yr ymdrech aflwyddiannus honno, dywed- ai iddo dderbyn llythyrau oddiwrth ei gyfeillion yn ei gymell i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth wed'yn; ond iddynt fethu i'w berswadio i wneud hynny. Yr oedd wedi llosgi ei fysedd unwaith; ac ofnai gyfarfod yr un dynged drachefn. Os darllena neb y gyfrol honno," meddai yn ei ddull doniol ei hun, wedi mwy na chwarter canrif dieithrwch i'n gilydd, nid oes arnaf gywilydd o rai pethau ynddi, yn enwedig y Cyflwyniad ohoni i fy rhieni .— Richard a Mari Lewis,-y rhai sydd bellach wedi sylweddoli y dymuniadau a obeithir iddynt yn y 'Cyflwyniad.'