Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyfarfodydd, ac ni ymosodid ar y crefyddwyr, na'r pre- gethwyr, ond taenid chwedlau celwyddog amdanynt fel ag i greu rhagfarn yn eu herbyn. Rhoddwyd y gair allan yr arferent yn eu cyfarfodydd ddiffodd y canhwyllau i ddibenion annheilwng, a galwyd y cyfarfodydd ar yr enw Cyfarfodydd y weddi dywyll." Hwyrach i'r enw darddu i ddechreu oddiar gamsyniad yr erlidwyr, y rhai trwy glustfeinio wrth y drws a glywent yr hen weddiwyr yn cwyno eu tywyllwch mewn gweddi. Preswyliai yn y Faenau y pryd hwnnw foneddwr o'r enw Mr. Kyfiin, yr hwn oedd heddynad; aeth rhai o'r gelynion ato i achwyn ar y crefyddwyr ac i brotestio yn erbyn eu hanweddeidd- dra yn eu cyfarfodydd. Mewn canlyniad, rhuthrodd y boneddwr un noson i'r addoldy tra y cynhelid cyfarfod eglwysig, a hynny pan yr ydoedd ymhell o dan ddylanwad y ddiod feddwol. Pan aeth i mewn gofynnodd, Beth ydych yn ei wneuthur yma?" Atebwyd ef gan Robert Evans, yn arafaidd, Cyng- hori ein gilydd, syr, ynghylch pethau bywyd tragwyddol." Pa Ie y mae y Weddi dywyll' gen'ti?" gofynnai y boneddwr. Yn wir, syr," atebai yntau, hi fydd yn ddigon tywyll arnom ni yn fynych." Wel," gofynnai Mr. Kyffin, a fedri di bregethu?" Mi fyddaf, syr, yn arfer cynghori ychydig weithiau," atebai Robert Evans. Wel," meddai y boneddwr, rhaid i ti bregethu i mi yn awr." Ymesgusodai yntau ei oreu, ond yr oedd y gwr mawr wedi rhoddi ei fryd ar fynni enghraifft o'r hyn bregethid ganddo, yn gystal a chael prawf pa faint o fedr oedd ganddo, ac ni dderbyniai unrhyw esgusawd. Felly i'r pulpud 'y gorfu Robert Evans fyned. O'i flaen yr oedd yr ynad heddwch, a nifer o ddyhirwyr a ddaethant i'w ganlyn o'r dafarn, gan disgwyl cael cyfleustra i arllwys eu gwenwyn ar y crefyddwyr. Gwnaed cais yn ystod y bre- geth fwy nag unwaith gan yr erlidwyr i godi terfysg; ond safai Mr. Kyffin yn eu canol gan orchymyn tawelwch. Ar waith y pregethwr yn disgyn o'r pulpud, galwodd y boneddwr ef ato, a chanmolodd ei bregeth yn fawr. An- ogodd ef hefyd i fyned ymlaen gyda'i waith fel pregeth-