Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wr, ac fe roddodd gini iddo, am," ebe fe, eich pregeth rhagorol." Bu y tro hwn yn derfyn i bob erlid cyhoeddus yn Llan- rwst, canys ni allai Mr. Ryffin o hynny allan oddef i neb, mewn cwmniaeth boneddigion, nac un ffordd arall ddifrÏo ac enllibio y Methodistiaid. Llochesai barch neilltuol i Robert Evans, at yr hwn y cyfeiriai bob amser fel ein pregethwr da." Ystyrid ef gan bawb, meddir, yn bre- gethwr da." Yr oedd ei ysbryd yn iraidd, a'i weinidog- aeth yn nerthol. Ond ber fu ei oes. Yn y flwyddyn 1781. aeth i Lundain i bregethu i'r Cymry yno, ac efe yn ol rhai oedd y cyntaf i fyned yno oddiwrth y Methodistiaid. Pan ddaeth yr amser iddo ddychwelyd adref, teimlai yn dra thrallodus ei feddwl. Y bore, cyn cychwyn adref. dar- llenodd ar ddyletswydd Salm cii., lle y ceir yr ymadrodd Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nydd- iau." Cyrhaeddodd y cerbyd Ie a elwir Marhct Strcct. naw milltir ar hugain o'r Brifddinas; safodd yma tra y newidid y ceffylau; ac yn ol tystiolaeth un o'i gyd-deithwyr, syllai Robert Evans yn syn-fyfyrgar ar y sêr. Ond tra yr ydoedd yn yr agwedd ddwys hon, wedi colli ei hun yn ei fyfyrdodau, cychwynnodd y cerbyd ar ffrwst, a hynny yn dra sydyn; collodd yntau ei fantoliad. a syrthiodd oddiar y cerbyd ar ei ben ar garreg, a bu farw cyn pen ychydig funudau. heb allu dweyd un gair wrth neb. Bu hyn ym mis Mai, 1782, pan oedd ond 32 mlwydd oed. Claddwyd ef mewn modd parchus gan gyfeillion crefyddol y Brif- ddinas, a gwnaethant gasgliad o £ 60 i'w weddw a'i dri phlentyn amddifaid. Parodd yr oruchwyliaeth dywell hon lawer o dristwch i'w frodyr crefyddol, a bu galar mawr iawn amdano yn Llanrwst. Nid oes un lle yng Nghymru ag y mae Meth- odistiaeth wedi gwreiddio yn ddyfnach, ac yn gwisgo gwedd fwy llewyrchus, nag ydyw yn Llanrwst a'r am- gylchoedd. Coronwyd ymdrechion John Richards a Robert Evans, ynghyd ag eraill a fu yn llafurio yn y cylch amser maith yn ol, a llwyddiant mawr. Ac er i'r Meistr mawr weled yn dda symud rhai o'r gweithwyr goreu o'r maes at eu gwobr, pan nad oeddynt ond ieuainc, anfonodd weithwyr eraill i ddwyn y gwaith ymlaen llawn o sêl ac o eiddig-edd dros ei oeroniant. Penmaen Rhos, Cohuyn. EDWARD THOMAS.