Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. WILLIAMS PANTYCELYN, FEL BARDD A DIWINYDD.* GANED Williams ddau can' mlynedd yn ol yn Sir Gaer- fyrddin, hên sir enwog yn hanes Cymru. Yn nhref Caer- fyrddin y mabwysiadodd yr Eisteddfod y pedwar-mesur- ar-hugain, y rhai ydynt bedwar ar hugain o lyfetheiriau ar awen Cymru. Y cynganeddion, fel eu gfelwir, yw malltod barddoniaeth y genedl. Barddoniaeth gaeth y Cymry sydd ffurf o farddoniaeth na fu, nac sydd, ac na fydd gan unrhyw genedl arall o greadigaeth y byd hyd utganiad yr archangel yn y dydd diweddaf, ond er gwell neu er gwaeth, i dref Caerfyrddin y perthyn yr anrhydedd neu y gwarthrudd o dorfynyglu Awen a lladd gwir fardd- oniaeth. Ond os yn nhref Caerfyrddin yr arweiniwyd barddon- iaeth i gaethiwed, yn Sir Gaerfyrddin yr arweiniwyd hi allan i ryddid. Dafydd ap Edmwnt a'i caethiwodd, Wil- liam Williams, Pantycelyn, a'i rhyddhäodd. Gwir fod Cannwyll y Cymry gan y Ficer Prichard yn cynnwys llawer rhigwm rhagorol, a phob rhigwm yn gryf ym mhlaid moesoldeb, ond o braidd y maentumia neb fod y Gannwyll yn meddu lle uchel nac isel ym marddon- iaeth y byd. Moesolwr, nid bardd, oedd y Ficer, a diau mai moesolwr oedd angen y wlad y pryd hwnnw; ac fel un teimlaf fi yn ddiolchgar fod yr hên offeiriad synhwyrol wedi ffafrio ein cenedl â goleuni Cannwyll," pan nad oedd lloer na seren yn torri dim ar y fagddu fawr. Dilyn- wyd ef gan yr Archddiacon Prys yn y Salmau ar gân. Mae barddoniaeth yn y Salmau, a barddoniaeth uchelryw; ac yn y gwreiddiol, er nad oes odl, eto y mae ymdoniad urddasol iawn. Yr oedd Dafydd frenin ac eraill o'i genedl yn wir feirdd, ac er yn amddifad o fling y beirdd *Traddodwyd yn Nhregaron a Phontycymmer, yn nathliad Dau Can Mlynedd y Perganiedydd.