Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWASANAETH PETER WILLIAMS I LENYDD- IAETH GREFYDDOL Y GENEDL.* I. A dweyd y gwir rhaid i mi gyfaddef fy mod braidd yn swil i siarad yn y cyfarfod neilltuol hwn. A rheswm da paham, nid wyf yn rhyw sicr iawn o'm hawl i fod yn y fan lle 'rwyf heno. Nid oes wrth gwrs unrhyw amheu- aeth yng nghylch y ddau frawd alluog sydd wedi llefaru'n barod. Y maent hwy yn eu priod Ie y nol braint a defod holl drefniadau rheswm a thraddodiad, natur a grâs. Gwel pawb fod y Llywydd yn ei le, ac yn addurno ei safle a'r cyfle godidog hwn, waith dyry fynegiant heno nid yn unig i'w argyhoeddadau personol ei hun, ond teimlwn 011 fod urddas a nerth, ac awdurdod Cymdeithasfa'r De yn pwyso'n drwm ar ei eiriau i gyd. Hefyd, onid yw yn pregethu o Bulpud Peter Williams yn amlach na neb arall, waith efe yw gweinidog ffyddlon yr eglwys a blannwyd gyntaf gan hen Apostol Sir Gaerfyrddin? Ie'n sicr, hapus odiaeth yw gweled mai un o orchwylion cyntaf a phwysicaf ein Llywydd yw arwain yr hên arwr amry- ddawn a sangodd mor drwm ar ddaear Cymru yn nydd- iau'r blynyddoedd gynt, i'w orsedd urddasol gan roi'r goron euraidd ar ei ben, unwaith am byth, i beidio ei symud mwy, yng nghanol clodforedd llu o galonnau brwd y cyfarfod hir-gofiadwy hwn. Ac am Principal Davies, onid yw yn gyd-ddigwyddiad o'r fath hapusaf, fod Pennaeth Coleg cyntaf a phwysicaf y Brifysgol Gym- reig yn cymeryd ei Ie mor galonnog ar y llwyfan, gan ym- falchio'n groew heb ddeilen ar ei dafod, yn y ffaith ddi- ddorol ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol o'r hên wron clodfawr, ag y mae ddarfod i'r cyfarfod hwn gael ei drefnu'n unig swydd i ddathlu ei goffa ag uchel lef ac mewn llafar glod. Ond am danaf fi, druan wr, ni synnwn fawr, nad yw rhai ohonoch yn gofyn eisoes­"Y cyfaill, pa fodd y daethost ti yma?" A'm hunig ateb yw-fy mod braidd yn syndod i mi fy hun. Ac eto, Beth;wn i, Sylwedd araith a draddodwyd gerbron Cymdeithasfa'r De vng Nghydweli, Tachwedd 16eg, 1921, yng Nghyfarfod Dathlu Dau Gan- mlwydd Geni yr hên Esboniwr enwog.