Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WRTH ddarllen hanes crefydd yng Nghymru, yn ei gwa- hanol agweddau, yn ystod y ganrif ddiweddaf, sylwn fod llawer iawn o sêl a ffyddlondeb wedï cael eu harddangos gan deuluoedd arbennig. Un o'r cyfryw ydoedd teulu Moses Jones, crydd, Llanrwst. Bu ef a'i fab, James Hughes Jones (Iago Hydref) yn arwain y canu yn Seion (M.C.) :n yr ysbaid maith o bedwar ugain mlynedd ac un. Hwyrach mai nid anniddorol fyddai cael ychydig o hanes y penceiniaid hyn. Ganwyd Moses Jones yn y flwydd- yn 1794. Mab ydoedd i Robert Jones, saermaen (1751 -1838), un o'r athrawon cyntaf fu yn gwasanaethu yn Ysgol Sabothol Hen Gapel y Groesffordd (Llanrwst) pan ei sefydlwyd oddeutu'r flwyddyn 1795 dan arolygiaeth Wil- liam Griffith, y Mynydd (1770-1849) yn ol anogaeth Thos. Charles o'r Bala (I755—I8I4). Ganwyd ei fab, James Hughes Jones, ychydig dros gan mlynedd yn ol, sef H'yd- ref 12fed, 1819. Adnabyddid ef wrth yr enw Iago Hyd- ref." U du ei fam yr oedd yn nai i'r Parch. James Hughes, Lleyn (1778 — 1851). Edrychid ar Moses Jones fel gwr duwiol a thalentog iawn. Er nad yn ddiacon bu yn golofn oleu, eglur, fel arweinydd y gân am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn ddisgybl i'r hen gerddor adnabyddus John Ellis, ac ar symudiad yr athraw o Lanrwst yn 1814 penodwyd y dis- gybl i arwain y canu yn Seion. Dyma fel y dywed Mr. J. T. Jones, Rhyl, un o hen frodorion Llanrwst, anwyd yn 1836, am dano, Yr oedd gan Moses Jones lais mwyn a threiddgar; yr oedd yn hynod gywir a doeth yn ei ddewis- iad o dôn, hapus yn ei gyweirnod a'i amseriad, ac yn ffyddlon i ddyletswyddau ei swydd; perchid ef yn fawr, ac edrychid i fyny ato gennym fel safon-ddechreuwr. Byddai ei wraig weithau yn gweled gormod o amser yn mynd i bricio y notes,' a gofynnai, Wel, Moses Jones, beth gewch chi am bethau fel hyn ?' O, coron, Jane bach,' fyddai yr ateb." Dylaswn ychwanegu mai Gwilym Cowlyd, y diweddar Brif-Fardd Pendant, a roddodd y teitl Penceiniaid Seion ar M. J. a J. H. J. —W. W.