Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLONDER YSBRYD YR ARGLWYDD IESU. Ni rydd yr Efengylau yr un awgrym parthed ymddangos- iad personol yr Arglwydd Iesu, sef pryd ei wyneb, lliw ei lygaid, arliw ei wallt, ffurf ei ben, a dullwedd ei gorff. Y mae ymddangosiad a chorffolaeth ein Gwaredwr i ni yn gwbl anhysbys,-ond o berthynas i'w ysbryd-Efe ydyw'r hysbysaf o bawb. Fe gyflwyna haneswyr Groeg yr hen athronydd enwog hwnnw, Socrates, yn wr byr (squat), di-lun, cwerylgar-ymofyngar, amheus, mwyseiriol (pun- ning), ac mewn cyfyng-gyngor parhaus yn ystrydoedd Athen. Y mae pobl Italia dlôs, ac hefyd Raffaèl dêg, wedi anfarwoli ffurf a phryd wyneb Dantè. Ac onid yw'r wyneb trallodus-ond eto pur, coeth, a nefolaidd y bardd- broffwyd yn ddangoseg ragorol o fuchedd a dillynder ei fywyd ? Ac o efyrdu wyneb trist a threiddlym y bardd, nid anodd i neb gredu mai efe ydyw awdur Y Ddwyfol Gerdd." Fe gyflwyna'r Ellmynwr yntau hefyd wyneb Martin Luther y diwygiwr Protestanaidd gyda balchter difesur. A phan syllwn ar y llinellau trwm, llydan, sydd yn wyneb cryf a chadarn y diwygiwr, wele wyneb yn orlawn gan lawenydd a chwerthin, ac sydd hefyd mor fanteisiol i arddangos digllonedd a soriant y dadleuydd pan y'i cynhyrfir i ddadleu dros wirionedd mewn dadl, ynghyda'r ewyllys a'r penderfyniad anhyblyg hwnnw sy'n ofynnol i sefyll yn unig heb gynhorthwy yn erbyn ang- hristiau'r byd. Yr ydym ninnau'r Prydeiniaid drachefn yn mynwesu darlun Oliver Cromwell, ac oni fynega ei lygaid praff fawrfrydigrwydd ei gymeriad ? Ac er gwrym ei ael, a'i foch rhigol-ddafadennog, y mae toriad ei enau, ynghyda'r wedd gyfriniül-arwraidd sydd mor nodwedd- iadol ohono, yn ddangoseg o gadernid yr ewyllys honno safodd yn erbyn llywodraeth lygredig Prydain yn amser Siarl y cyntaf. Gwyddom fod y cerflunydd a'r lluniedydd hefyd wedi ceisio cyflwyno portread i'r byd o'i Waredwr tirion. Ac os craffwn ar weithiau Fra Bartolomeo, Michael An^elo, Titian, Raffaèl a Rubens, braidd na ddy- wedem na ddihysbysodd y cewri celfydd hyn holl adnodd- au eu hathrylith wrth ceisio portreadu hawddgarwch a