Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CIP-DREM AR LENYDDIAETH Y GANRIF DDIWEDDAF. FEL canlyniad i ddiwygiad mewn crefydd y daeth y deffro- ad meddyliol a llenyddol i'w ganlyn. Dyma un o ogwydd- iadau mwyaf bendithiol llenyddiaeth Gymreig y ganrif ddiweddaf. Cadwodd hwn ei diwylliant rhag ymgolli mewn dirywiad moesol, yn ogystal a chadw ei rhyddid rhag diflannu fel niwl y bore. Dan ffurfiau allanol o bryd- ferthwch, gwelai y Cymro fod rhai cenhedloedd goreu Ewrop wedi cael eu siomi. Ond trwy lewyrch tanbaid ei Ddiwygiad Crefyddol dyrchafwyd ef uwchlaw pob siom- iant. Arwyddair mawr y Diwygiad iddo ef ydoedd cre- fydd yn Brif Deml ei symudiadau. Dyma oedd ei Jeru- salem; ac o'r fan hon yr oedd ei holl egwyddorion cyn- vddol i gychwyn allan. O'r fan hon yr oedd ei Wleid- yddiaeth i gael ei chynhyrfu; ei addysg i gael arweiniad, a'i lenyddiaeth ei chyfarwyddyd a'i diwylliant. Yn hyn y gorffwys y gwahaniaeth mawr sydd rhyngom ni fel cenedl a'r Saeson. Teimla y Sais yn gas ganddo gyf- uno y crefyddol, y gwleidyddol, y llenorol, a'i gilydd. Nid felly y Cymro, a'i lwyddiant i uno rhain ydyw cuddiad ei nerth fel cymeriad cenedlaethol; a dyma sydd wedi rhoddi awch ar ei lenyddiaeth-yn gystal a'i chadw yn bur rhag llygru neb. Yn hanes llenyddiaeth, yr un modd ag yn hanes gwlad nid yw dechreuad y naill gyfnod braidd un amser i'w ddyddio o adeg diwedd y cyfnod blaenprol. Fel rheol, mae y naill yn cynhyddu yn raddol, a'r llall yn lleihau yn gyfamserol, am fwy neu lai o flynyddoedd. Felly y bu yn hanes yr ail gyfnod o Ddiwygiad y Cymro. Gwaith llenyddiaeth yn y cyfnod cyntaf oedd cynhyrfu y bobl; yr ail a ddygai athrawiaeth ac egwyddorion iddynt, ac yn y trydydd, diwyllid a goleuid eu meddyliau. Ond eto, rhaid cofio hyn Daeth y ganrif i mewn yn swn gogwyddiad cryf a phendant-Ddigrij-gerddi Twm o'r Nant! Bu ef yn allu pwysig yn llenyddiaeth y deng mlynedd cyntaf o'r ganrif; oblegid teganau oedd Interliwdiau y τηfed a'r 18fed ganrif. Yr oeddynt wedi deilliaw o "gyf-