Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JEREMY TAYLOR YN GELLI AUR. Llyfr mwyaf defosiynol yr ail ganrif ar bymtheg ydyw, Rheol ac Ymarferiad Buchedd Sanctaidd "-`` Rule and Exercise of Holy Living." Pwy oedd yr awdur, a pha Ie yr oedd pan gyfansoddodd y llyfr hwn ? Yr awdur ydyw Jeremy Taylor, mab i eilliwr yng Nghaergrawnt. Y pryd hwnnw, yn ychwanegol at drin yr ellyn, golygai crefft y tad, dynnu dannedd a gwaedu, ac efe a gyfarwyddodd ei fab gyntaf mewn gramadeg, i'w osod ar lwybr i raddio a bod yn offeiriad. Yn Gelli Aur yr oedd Taylor pan yn cyfansoddi y llyfr a nodwyd. Palas ydyw Gelli Aur- Golden Grove, rhyw dair milltir islaw Llandeilo, yn Nyffryn Tywi, Sir Gaerfyrddin. Pa fodd y daeth y dyn hwn i Gymru ? Yn ychwanegol at fod yn frenhinwr pybyr, bu mor anffodus a thynnu sylw y dyn mwyaf ei ddylanwad yn Lloegr yr adeg honno,-sef yr Archesgob Laud, yr hwn a dynnai raffau disgyblaeth mor dyn am bob gewyn o'i ganlynwyr, fel pan syrthiodd yr Archesgob, chwalwyd llawer o gestyll Taylor a gorfu iddo dalu dirwy drom am ddiffygion Laud. Pan gafwyd arwyddion eglur fod Cromwell yn ennill tir, gyda'r cestyll yn syrthio o flaen cyflegrau ei luoedd, a'r naill ddydd ar ol y llall yn ychwanegu at berygl y brenhinwyr, ffodd Taylor i Gymru, a'r hanes cyntaf a geir amdano, yw iddo gael ei gymryd yn garcharor gan fyddin Cromwell yng Nghastell Aberteifi, Chwefror 4ydd, 1645, ac yn y diwedd syrthiodd i ofal Richard Vaughan-Iarll Carberry, ei noddwr am y deng mlynedd nesaf. Nid yn unig cafodd gysgod yn y Gelli Aur rhag yr ystorm, ond hefyd penod- wyd ef yn gaplan i'r Iarll. Bu yn alltudiaeth ddymunol iddo, fel y dywed ef ei hun, In a great storm which dashed the vessel of the church in pieces, I was cast on the coast of Wales, and in a little boat, thought to have enjoyed that rest and quietness which in England I could not hope for." Disgynnai Iarll Carberry yn uniongyrchol o Henry Vaughan o Gydweli, diwobrgampau yr hwn a fu mor ddefnyddiol i Harri'r Seithfed. Gwraig ragorol ydoedd Iarlles Carberry; i gael syniad am ei moesber arferion