Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DR. GRENFELL, LABRADOR. "FHYSYGWR annwyl," yn ddiau, yw'r gwr da hwn; a bellach mae ei hanes gennym yn llawn a manwl o'i law ef ei hun. Cyhoeddasid eisoes rannau o'r stori, mewn llith a llyfr, megis gwaith y Parch. J. Johnston yng nghyfres y Popular Missionary Biographies (Partridge & Co.). Ond haeddai hanes mor ramantus, a newyddion mor dda, gael eu cyfleu yn awdurdodedig, a'u delweddu gan y ber- sonoliaeth swynol sy'n ganolbwynt iddynt. Ac fel y gwelodd y physygwr annwyl arall yn dda, wedi iddo ddilyn pob peth yn ddyfal o'r dechreuad, ysgrifennu mewn trefn at yr ardderchocaf Theophilus, hanes yr Un sy'n ys- brydiaeth ac yn nerth i bob cenhadwr, felly yr ildiodd Dr. Grenfell i gymhellion ei gyfeillion a fynnent iddo fyw ym- laen ochr yn ochr â'i Hunanfywgraffiad. Sylweddola'r peryglon y gesyd ei hun yn agored iddynt trwy hyn rhaid cyffesu colliadau a methiantau, neu ynteu gelu peth o'r gwir. Ond gwyr hefyd fod bywyd a gwaith ymysg pys- gotwyr Labrador, am yn agos i ddeng mlynedd ar hugain, wedi rhoi iddo genadwri at Gristionogion y byd; a bod y gwaith o'r cyfryw natur ag a gymhathir i'r Efengyl dra- gwyddol, fel mai gwae yntau onid adroddai yr hanes, er mwyn yr Hwn sy'n nôd i'r cyfan. Hawdd gweled, dra- chefn, nad allai neb arall ysgrifennu'r hanes mor fyw i ffaith allan o olwg llygad y byd y treuliodd faich y blyn- yddoedd hyn. Un o weision pennaf yr hil ddynol yw Dr. Grenfell: anodd dychmygu am wron mwy anturiaethus, na Christion mwy hunanaberthol. A ffurfia'r hanes hwn un o'r cyfrolau mwyaf dynol-am ei fod mor Gristion- ogol. Adroddir yr ystori â'r gostyngeiddrwydd a nod- wedda eneidiau mawr; ond teimlir ar ol gorffen ei darllen, nid yn unig inni fwynhau llyfr byw, eithr inni anadlu awyr iachusol a chryfhaol. Wrth gyd-deithio âg ef deuir i gwmni bendithiol, a rhodiwn gyda Duw. Aeth mireinder awel y parthau gogleddol lle y trig, yn rym ychwanegol i'w arddull lenyddol: mae'n ysgafn a gwisgi, ac eto'n goeth ac urddasol. Cytuna'r mater â'r ffurf, gwedda'r wisg i'r corff. Try'r hanes yn ysbrydiaeth i ninnau; rhydd frwdfrydedd a phwrpas i'n bywyd, ond ei ddarllen