Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. COFIANT A PHREGETHAU Y DIWEDDAR BARCH. ROBERr WILLIAMS, M.A., GLANCONWY. Gan y Parch. E. Llewelyn Williams, B.A., Seacombe. Liverpool: Hugh Evans a'i Feib- ion. Pris 3/6. Pob archebion i'w hanfon Vr Awdur, 17, Walsingham Road, Seacombe. Çawsom hyfrydwch digymysg a llawer o adeiladaeth wrth ddarllen y gyfrol hon. Daeth a'r gwrthrych yn fyw gerbron ein llygaid. Dych- mygem ei glywed yn traddodi rhai o'r pregethau gofnodir yma, gyda rhai eraill hefyd a glywsom ganddo ond nad ydynt yn y gyfrol hon, megis, Pen Carmel," Taro'r Graig," a'r pregethau i blant ar Samuel a Daniel.' Gwnaeth yr awdur felly gymwynas fawr wrth gyhoeddi'r gyfrol â llu o wrandawyr y pregethau a garent droi atynt drachefn a thrachefn i gyffroi eu meddwl puraidd, a byddant yn gyn- orthwy i bregethwyr ieuainc ac eraill ddirnad gogwydd a chyfeiriad pregethau diddorol a buddiol yn y cyfnod nesaf atynt. Er mai gwaith anodd ydoedd ysgrifennu bywgraffiad heb nemor o'r elfen gyffrous a syn ynddo, aeth Mr. Llewelyn Williams trwy'r gorchwyl yn neilltuol o lwyddiannus, ac fe erys y gyfrol werthfawr hon yn gofgolofn deilwng i goffadwriaeth ei annwyl dad. Bydd darllen hanes gyrfa y diweddar Barch. Robert Williams yn symbyliad ac ysbrydiaeth i lawer y mae eu hanfanteision yn rhwym o fod yn llai na'r eiddo ef. Ni allem lai na rhyfeddu at ei ymroddiad a'i ymgysegriad i'w waith o'r cychwyn trwy Ysgol Clynnog, Coleg y Bala, Edinburgh, ac yn wir trwy gydol ei oes. Sychedai am wybodaeth a diwylliant, a gosodai bopeth a feddai ac a wyddai dan deyrnged i Weinidogaeth yr Efengyl. Yr oedd yn bre- gethwr rhagorol. Bu yn llwyddiannus fel bugail mewn gwlad a thref, yng Nghymru ac yn yr Amerig. Enillodd radd dda fel awdur tri o lyfrau gwych-" Yr Efengyl yn yr Hen Destament," Cofiant Griffith Roberts, Carneddi," a Chraig yr Oesau." Ond pregethu oedd ei hoff waith. Ac fel yr awgryma teitlau ei lyfrau, ynghyd a'u cynnwys, gosodasai fri a phwys arbennig ar yr Hen Destament. Dichon na fuasai erbyn hyn yn glynu'n dyn wrth rai o'r golygiadau a gyhoeddodd ar Feirniadaeth Feiblaidd ei dydd-er fod hithau hefyd bellach wedi cymedroli rhai o'i honiadau. Ei fater mawr bron bob amser ydoedd Yr Efengyl yn yr Hen Destament." Dangosai, gyda llawer iawn o fedrusrwydd, a threiddgarwch meddwl a gwreiddioldeb dawn, werth a pharhad y datguddiad o Dduw trwy yr Hen Destament. Meddai argyhoeddiad dwfn o ddrwg pechod, a'i ganlyniadau anocheladwy; dodai fri a gwerth ar ordinhadau Crefydd a ffyddlondeb i foddion gras, fel y dywed y Parch. J. Puleston Jones yn ei Ysgrif Goffa benigamp amdano. ac a gynhwysir yn y gyfrol hon. Ac yr oedd holl gyfeiriad a thôn ei weinidogaeth yn gwbl ymarferol. Cerddai ysbryd cryf a moesol iach drwy ei holl bregethau. Y mae drwyddynt wedi marw yn llefaru eto." CRIST A GWAREIDDIAD, SEF TRAETHODAU AR FATERION DIWINYDDOL A CHYMDEITHASOL. Gan y Proff. D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu. Dolgellau Hughes Bros. Pris 7/6. Drwg gennym na allwn ar hyn o bryd, oherwydd prinder gofod, wneuthur mwy na rhoddi croeso calon i'r gyfrol werthfawr hon. Eithr bwriadwn ddychwelyd ati, maes o law, i ystyried y drafodaeth geir