Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ynddi ar amryw o faterion pwysig ein crefydd a'n gwareiddiad. Yn unig gallwn yn awr longyfarch yr awdur ar ymddangosiad ei orchest- waith hwn. Daeth â'r ddysgeidiaeth addfetaf, y diwylliant puraf, gyda'r ysbryd mwyaf llednais, i wynebu ei dasg. Gesyd ei safbwynt yn glir ger bron y darllenydd, oblegid fe restra ei hun gyda'r rhai a barhant yn ffyddlon i'r delfrydau a'r gwirioneddau canolog a fu'n angor i'n cenedl gynt, ond yn awyddus i'w hail-ddehongli a'u cyfaddasu ar gyfer gofynion oes newydd, a thrwy hynny ein cymhwyso ar gyfer y dasg o adeiladu Cymru newydd a byd gwell." Ceisiaf wynebu," ebr ef, rhai o brif broblemau diwinyddol a chymdeithasol ein cyfnod, gan ymdrechu cadw golwg yn barhaus ar anghenion ein hoes a'n gwlad, a manteisio hyd y gallwn ar y wybodaeth ddiweddaraf, ac ar yr un pryd ddiogelu'r elfennau amhrisiadwy o wirionedd a gwerth oedd yn yr hyn a dderbyniasom yn waddol o'r gorffennol." Ceir yma felly gyfuniad o'r hen a'r newydd. Ymhellach, cymhellwyd ef i alw ei gyfrol Crist a Gwareiddiad yn hytrach na Chrefydd a Gwareidd- iad," oblegid ychwanegai, er y rhoddir sylw amlwg yn y gyfrol i grefyddau eraill heblaw Cristionogaeth, amcenais roddi'r lle canolog i Grist fel y dehonglydd terfynol o Dduw a phrif obaith Cymru a'r byd." Rhoddir un Adran bwysig o'r gyfrol-Adran IV.-yn gyfangwbl i drafod Am Grist." Daw llu o faterion anodd a phwysig o dan sylw'r awdur ar randiroedd Athroniaeth a Chrefydd, eithr ni chyll efe byth ei safbwynt cyntaf. Teilynga'r gyfrol hon eto fel ei chwaer, Crefydd a Bywyd, o'i blaen, bob cefnogaeth, ac ni ddylai llyfrgell yr un Cymro meddylgar a chenedlgarol fod hebddi. RECENT THEISTIC DISCUSSION (THE TWENTIETH SERIES OF CROALL LECTURES). By Wittiam L. Davidson, M.A., LL.D., Professor of Logic and Metaphysics in the University oj Aberdeen. Edinburgh T. & T. Clark. Pris 7/6. Dywed yr awdur mai atodiad yw y Darlithiau hyn i'r rhai a gy- hoeddwyd ganddo o dan y pennawd Theism as grounded in Human Nature." Yno dynesid at Theistiaeth o safbwynt meddyleg a rhesym- eg, a gwnaed elfeniad o'r prif ddamcaniaethau agnosticaidd, a cheisid egluro natur ac ystyr Amheuaeth Grefyddol, a gwnaed cyfrif lled fanwl o Theistiaeth o safbwyntiau y Teimlad, y Deall a'r Natur Foesol. Yn awr. wedi ymehangu tipyn o syniadau dynion am wneuthuriad a natur y Cread, ac yn wyneb gofynion dibaid yr ymwybyddiaeth brofiadol, a chyda diddordeb cynhyddol y gwyddon a'r athronydd ym mhethau crefydd, teimlir fod angen corffori a chrynhoi yr amrywiol ffrydiau hyn o feddwl fel y gweithredant ar yr Athrawiaeth Theistaidd, yn y gen- hedlaeth bresennol. Dechreuir gyda phennod ar Grefydd a Theist- iaeth,' yna, Bywydeg fel cynorthwy i Theistiaeth Synnwyr Cyff- redin Crediniaeth anocheladwy (A. J. Balfour) Duw mewn dyn a Natur Swyddogaeth athronyddol Ffydd (A. Campell Fraser); Yr Egwyddor o Werth a'r Syniad am Dduw (A. S. Pringle-Pattison); 'Ymlaen ac yn ol mewn Theistiaeth,' a phennod ddiweddgloawl ar Grefydd Natur, ac ysgolion gwahanol o Feddwl.' Yma ceir cyflwyn- iad mewn lle byr 0 syniadau y gwahanol Ddarlithwyr Gifford hyd y flwyddyn 1919, a dodir pob un ohonynt yn ei ysgol ei hun. Dyma gyfrol a dâl yn dda am astudiaeth fanwl ohoni, a gall y darllenydd cyffredin ei mwynhau, oblegid mai'r Proff. Davidson yn gynefin â'r gwaith o wneud pynciau athronyddol yn ddiddorol ac yn boblogaidd.