Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. WILLIAMS PANTYCELYN. II. FEL YSGOLOR A PHREGETHWR. Dichon mai nid anfuddiol rhoddi yma ar ddechreu yr ys- grif hon ychydig o fanylion hanes ein harwr. Ganwyd William Williams ddau can mlynedd yn ol (1717) mewn ffermdy o'r enw Cefncoed, eiddo ei dad, milltir neu ddwy o Bantycelyn, cartref ei fam yn nyddiau ei morwyndod, a'i gartref yntau am 40 mlynedd olaf ei oes. Yr oedd ei rieni yn freeholders o'r ddwy ochr, ac felly yng nghwrs amser daeth y Cefncoed a Phantycelyn yn eiddo iddo; a thrwy ei wraig, Mary Francis o blwyf Llansawel,-dynes hardd a diwylliedig-daeth dwy fferm arall i'w feddiant. Gwelir ei fod mewn amgylchiadau cysurus drwy gydol ei oes. Disgrifir ef gan hen wraig a'i cofiai fel dyn o daldra cymedrol, ysgafn ei gerddediad, bywiog ei dymer, a goleu ei bryd. Adwaenwn un o'i wehelyth, sef gwraig y di- weddar Philip Walters, gynt o Ystradgynlais, yr hon a ystyrid yn bictiwr o'i hendaid enwog. Boneddiges o bryd goleu ydoedd, y bochgernau ychydig yn uchel, a'i gwallt yn tueddu i fod o wawr felen, yn gymwys fel y darlun o'r Per-ganiedydd a dynnodd gwr ieuanc o Lansadwrn o hono o'i gof, rai blynyddoedd wedi ei farw. Wedi adnabod Mrs. Walters nid amheuais gywirdeb y darlun. Dyna'r darlun ar ba un y seiliwyd yr un sydd yn crogi ar bar- wydydd ein tai, sef y darlun o waith Mackenzie & Co., dan gyfarwyddyd yr amryddawn Kilsby Jones. Amcan- ent hwy at wella'r darlun drwy ei lyfnhau. Fel canlyniad gwnaethpwyd ei wyneb yn rhy lednais. Gwir fod llawer o'r menywaidd ynddo, ond nid mor amlwg ag yn y darlun crybwylledig. Nid oes gennym hanes am yr ysgolion dyddiol yr ai iddynt yn ei faboed. Ond diau fynychu ohono. yr ysgolion gwledig o gwmpas Llanymddyfri. Cofiaf fi vr ysgolion