Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWASANAETH PETER WILLIAMS I LENYDD- IAETH GREFYDDOL Y GENEDL. AIL YSGRIF. III. Yn nesaf, rhaid tremio'n frysiog ar Bamffledi a mân lyfrau Peter Williams. Y mae rhai ohonynt yn feithach na'i gilydd, ac yn gyfrolau bychain hylaw, tra nad yw'r lleill ond traethodau (tracts) o ychydig ddalennau'n unig. Tarawiadol iawn yw sylwi mai ei lyfr cyntaf oll yw Blodau i Blant," sef casgliad o adnodau, y Wyddor Gymraeg a chyfarwyddyd i ddarllen, gydag amryw o hymnau. Cyhoeddwyd hwn o flaen yr Eurgrawn yn 1758, a bu yn destun-lyfr amlwg yn ysgolion Griffith Jones a Madam Bevan. Gyda phob parch i Rhodd Mam a Rhodd Tad John Parry o Gaer, a Hyfforddwr" Charles o'r Bala, heibio i Owen Jones o'r Gelli, Ebenesar Richards, Tre- garon, a Robert Owen, Nefyn, Esgob y Plant," i gyd yn arwyr yr Ysgol Sul, i lawr at yr Hybarch Thomas Levi a'i "Drysorfa Fach," a Syr Owen Edwards gyda á Chymru'r Plant," peidier anghofio mai'r cynta' i gyd yng nghanol caddug y 18fed ganrif i gofio a threfnu ar gyfer plant bychain Cymru Fu oedd hên apostol hawdd- gar Sir Gaerfyrddin. Clywais pwy ddydd gan athronydd o fri-yr ymddiriedai ei fywyd unrhyw adeg i'r neb a garai blant a blodau. Yng nghanol tymhestloedd hwyr- ddydd bywyd yr hên bererin lluddedig, ac erlynwyr gwgus yn ei ymlid o Saswn i Sasiwn, pleser digymysg i mi yw cofio'r olygfa gyntaf hon, o fendigaid goffa, Peter Wil- liams yn gwasgar blodau o erddi'r Beibl glân i'r plant bychain a fegid rhwng bryniau'r hên-wlad hoff. Hwyrach mai gwell rhoi'r gweddill o'i fân gynhyrch- ion yn eu trefn amseryddol, er y carem ysgoi hyd y gellir sychter anialwch tywodlyd catalogue yr auctioneer. Y flwyddyn ganlynol-I759-cyhoeddodd lyfryn rhyfedd o gyffrous, sef, Aceldama, neu Faes y Gwaed,"