Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PERTHYNAS BEIRNIADAETH DDIWEDDAR Â PHREGETHU. WRTH drafod y mater hwn, fe geisiaf gadw dau neu dri o bethau mewn golwg. Yn un peth, ceisiaf gofio mai agor y mater yw fy ngwaith, ac fod trafodaeth i ddilyn, ac felly na ddisgwylir gennyf ddim tebyg i draethiad llawn a man- wl arno. Hefyd, cadwaf mewn côf mai cyfarfod o weini- dogion a phregethwyr yw hwn, ac felly fy mod yn siarad wrth rai sy'n hyddysg yn llenyddiaeth y pwnc. Ni bydd angen i mi fanylu am dermau a chasgliadau cyffredinol beirniadaeth. Heblaw yr hyn fydd yn angenrheidiol i'r ymresymiad, ni bydd i mi felly aros gyda'r pethau hyn. Er na cheisiaf wneuthur cymhwysiad ymarferol yn yr agor- iad-daw hynny yn naturiol yn ystod y drafodaeth fydd yn dilyn­-eto, ceisiaf gofio mai amcan ymarferol sydd mewn golwg wrth roddi'r pwnc yn fater trafodaeth. Yr amcan yw ein galluogi ni i wynebu anawsterau a phroblemau bywyd yn ein gweinidogaeth, a gwneuthur ein pregethau yn fwy effeithiol er adeiladu ein gwrandawyr yng ngwir- ionedd yr Efengyl. Dylem ddweyd hefyd mai â beirniad- aeth yr Hen Destament y bydd a wnelof. Wrth drafod y mater hwn gellid cychwyn o ochr pre- gethu neu o ochr beirniadaeth i'r berthynas. Gan mai agor y mater yw ein gwaith, dewiswn y llwybr olaf. I'n pwrpas ni, fe rannwn feirniadaeth yr Hen Desta- ment mewn modd cyffredinol i ddau ddosbarth, sef beirn- iadaeth y testun, a beirniadaeth hanesyddol. Nid oes angen dywedyd mai dosbarthiad rhwydd ydyw hwn, a'n bod yn cynnwys o dan y naill ddosbarth a'r llall ganghen- nau o feirniadaeth y buasid mewn dosbarthiad mwy manwl a gwyddonol yn eu hysgaru. Er enghraifft, cynhwyswn i'n pwrpas ni o dan feirniadaeth y testun feirniadaeth ieithyddol ac esboniadol, h.y., y feirniadaeth a ddelia âg ystyr geiriau ac ymadroddion, &c. Delia beirniadaeth y testun â thestun yr Ysgrythyrau yn ei wahanol ffurfiau, â'i hanes, â'r cyfnewidiadau a wnaethpwyd ynddo, â gwerth cymharol ei wahanol ffurfiau, â'r modd i adfer llygriadau y testun a'i ystyr, &c. Cais beirniadaeth hanesyddol fyned Anerchiad yng Nghyfarfod y Gweinidogion a'i Pregethwyr yn Sasiwn Pwllheli, Medi 15, 1921.