Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y FEDDYLEG NEWYDD. I. NA wasger yn ormodol ar y gair newydd yn y pen- nawd, oblegid 'does neb eto, hyd y gwn i, wedi penderfynu ei ystyr i'r blewyn. Mae yn air ystwyth, ac arferir ef, gallwn feddwl, i bob amcan dan haul. Mor amrywiol yn wir yw ei wasanaeth, fel y bydd ei arwyddocâd ambell dro yn gyfystyrol â'i wrthgyferbynydd, hen." A oes dim y gellir dywedyd amdano, Edrych ar hwn, dyma beth newydd? efe a fu eisoes yn yr hen amser o'n blaen ni." Ceir enghreifftiau o arfer rydd y gair bob dydd. Nodwn un neu ddwy. Pan ddywed gwr o bregethwr wrth frawd yn y weinidogaeth-ymadrodd digon cyffredin-" 'Rwyf wedi gwneud pregeth newydd," llefara yn null traddod- iadol pregethwyr ymysg ei gilydd, ond pe buasai creadur cas o ddyn yn ysbio yn fanwl i'r bregeth, cawsai ynddi lawer o'r hyn fuasai yn y byd o'r blaen-rhannau o hen bregethau y pregethwr ei hun, neu eiddo rhywun arall sydd ers talm yn y nef. A'r un modd hefyd gyda bardd y plwy'. Pan ddaw hwnnw allan â rhês o benhillion "newydd," odid na fydd ynddynt bethau a fu eisoes yn yr hen amser, ac a gasglwyd ynghyd gyda diwydrwydd barddol. Chware teg i'r pregethwr a'r bardd. Pwy all eu beio am brinder gwreiddioldeb? Trwy fanteisio ar help oddiallan, gwnaethant yr unig beth oedd yn bosibl iddynt o dan yr amgylchiadau, ac na thafled neb garreg atynt os nad yw ef ei hun gwbl rydd oddiwrth yr un peth. Wrth son felly am feddyleg newydd," cofiwn am y defnydd llac ac amhenodol a wneir o'r ansoddair, gan ys- tyried ei fod yn y cysylltiad hwn yn yr un blwch â phre- geth y pregethwr, a phenhillion y bardd y cyfeiriwyd atynt. Hynny yw, mae'r feddyleg newydd yn cynnwys llawer o bethau fu yn y byd o'r blaen. Fe wyr y cyfarwydd fod y gair newydd wedi ei gydio wrth feddyleg fwy nag unwaith o fewn y pum mlyn- edd ar hugain diweddaf, a phob tro, gyda gradd o wahan- iaeth. O fy mlaen y funud yma, gwelaf gyfrol a'i henw, The New Psychology," gan Dr. E. W. Scripture. Cy-