Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR YMWYBYDDIAETH DRAGWYDDOL. Dyna bennawd mawreddog a bostfawr Ond ni wn pa fodd y gellid yn well gyfieithu yr ymadrodd Cosmic Consciousness." Nid wyf yn cofio i neb ysgrifennu ar y testun hwn, a chan i mi dderbyn goleuni, budd a phleser wrth ddarllen y llyfr y mae yr ymadrodd yn deitl iddo dy- munaf gyflwyno ychydig i'r darllenydd. Cosmic Cons- ciousness" yw enw llyfr hynod a gyhoeddwyd gan Dr. R. M. Bucke. Ni chyhoeddwyd nifer luosog o'r llyfr, ac ymddengys ei fod erbyn hyn allan o brint," ac ni ellir ei gael ond trwy rai llyfrgelloedd. Ail deitl i'r llyfr yw A Study in the Evolution of the Human Mind," a chan i'r Dr. Bucke fod am 25 mlynedd yn gofalu am ryw 5,000 0 wallgofiaid dylai wybod rywbeth am y meddwl dynol. Cyf- athrach i'r llyfr yw Varieties of Religious Experience," gan William James. Ganed Dr. Bucke yn Canada ar fferm anghysbell, ac ar ol crwydro yn ol a blaen, yn yr America, graddiodd gydag anrhydedd uchel. Honna iddo ef gael y profiad hynod yng ngwanwyn y flwyddyn pan oedd yn 38 mlwydd oed. Dygodd hyn ef i sylwi ar ystyr y goleuni mewnol gafodd Paul a Mohamed. Casgliad, gan hynny, yw y llyfr o hanes y profiad hynod hwn ym mywyd eraill gydag ymchwiliad i'r mater gydag ystyr- iaethau arno. Cred Dr. Bucke fod y Cosmic Conscious- ness i ddod ryw ddydd yn feddiant i bawb fel y mae yr ymwybyddiaeth arferol yn awr. Fel gwyddonydd rhydd restr o'r nodau a welir ynglyn a'r Ymwybyddiaeth hynod yma. Gyda'r Ymwybyddiaeth 'Dragwyddol yma ceir goleuni mewnol," dyrchafiad moesol," llewyrchiad meddyliol," ymdeimlad o anfarwoldeb," colli ofn marw," colli'r ymdeimlad o bechod," sydynrwydd y deffroad," cymeriad da rhagflaenol-mewn meddwl, moes a chorff," oed, neu gyfnod arbennig, ar fywyd, gan mwyaf o tua 30 i 40," y person yn myned yn hoffus," a gweddnewidiad y person yn weladwy i eraill ar y pryd." Ceisia Dr. Bucke brofi oddiwrth lyfrau y Gwyddon- wyr, yn enwedig oddiwrth weithiau Romanes a Lester Ward fod Datblygiad yn arwain yn naturiol i'r Ymwy- byddiaeth Dragwyddol (Cosmic Consciousness). Y mae