Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YCHWANEG O EMYNAU AC AM EMYNWYR. CYFEIRIA y teitl at yr ysgrif a ymddangosodd yn y TRAETHODYDD am Ionawr, 1921. Dywedwyd wrthyf gan amryw eu bod wedi cael eu boddhau yn honno, a bu hynny yn anogaeth i baratoi hon i'r wasg, neu mae yn ddigon tebyg mai rhoi y gân yn y gôd y buaswn. Nid fy nghân i ydyw yr emynau hyn ychwaith, ond cyfieithiad neu efelychiad o waith pobl eraill. Mae gennyf nifer o rai gwreiddiol a wnaethum flynyddoedd lawer yn ol, ond nid oes dim ohonynt ymysg y rhai'n. Fodd bynnag wrth edrych dros y copi lle maent yn ysgrifenedig, tarewais wrth benhillion gwreiddiol, neu hanner gwreiddiol, a dodir hwy yma, yn un peth i ddangos fel y mae llifeiriant amser yn chwyrn-redeg ac yn ein cludo i'w ganlyn. Rheswm arall ydyw er mwyn i chwilotwyr y dyfodol gael sicrwydd pwy yw eu hawdur. Atebiad i un o'r chwilotwyr, sef Carneddog, ydyw y penhillion, a'i waith ef ydyw y dyfyn- iad blaenaf (o'r Herald Cymraeg). Gofynwyd i mi gan hen wraig o Nantmor a fedrwn i ddehongli yr hen ddychymyg hwn, a glywodd pan yn hogan weini.' 'R oedd gwr ym mhlwyf Llanfrothen Bu gan ei nain flynyddau Ei nain sydd wedi marw Myfi sydd dyst hyd heddyw Mae'r wydd yn dodwy 'leni, Gryn un-ar-ddeg neu ddeuddeg,- Nid yw hi eto eleni Dywedwch i mi'r, doethion, Difyr fuasai cael atebiad ar gân ;gan rhywun. Gall unrhyw ardal- wr newid enw y plwyf yn ol ei ffansi." Wele'r dyfyniad arall sydd yn cynnwys fy rhigwm i. Derbyniais yr atebiad doniol a ganlyn i'r dychymyg hwn oddi- wrth rhywun o rywle ond Llanfrothen, mi gradaf ,— A chanddo hen -wydd lwyd Yn gweini am ei bwyd. Er's pedwar ugain mlwydd; Na buo farw'r ẁydd. Bydd cywion cyn yr ha', Y mae hi'n fagrag dda. Ond un-ar-bymtheg oed; Pa fodd mae hyn yn bod.