Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Y MEDDWL A'I LE. Y MEDDWL yw ei le ei hun," ebai Miltwn. Ond a oes gan y lle ei ddylanwad ar y meddwl? A ydyw yn haws meddwl mewn ambell lannerch ? Treuliwn ddarn o nawn, dro'n ol, yn nhy gweinidog-un o hen ffrindiau'r dyddiau gynt. T}r ar fryn oedd hwnnw, a golygfa gyfoetho*» i ed- rych arni o ffenestr y llyfrgell. Ar y funud, yr oeddwn yn hanner eiddigeddu wrth y ffawd oedd wedi digwydd yn hanes y preswylydd. Gwelai bethau ardderchog o'r gad- air gerllaw'r ffenestr honno. Yr oedd y meysydd gwyrdd- ion, a'r môr byth-newidiol yn ymestyn o'i flaen. Tybed mai mantais oedd hyn oll ? Onid oedd yr olygfa yn rhy hud-ddenol i ddyn â thipyn o farddoniaeth yn ei enaid eis- tedd i lawr, a chyfyngu ei hun at ei lyfrau a'i waith ? Ni soniais am y peth wrtho cf, ond yr oeddwn yn ceisio gosod fy hun yn ei le, am dro, ac yn lled dybied mai edrych trwy'r ffenestr a wnawn o fore i hwyr. Wedi dychwel adref i'm cynefin, yr oeddwn yn falch o'r ffenestr fechan sydd yn wynebu'r mynyddoedd. Nid oes llawer i'w weld ohoni; y mae llwyni coed rhyngof a'r uchelfannau. A phan yn methu cael gafael ar y dymher- edd briodol byddaf yn syllu ar gangau'r coed yn ysgwyd o flaen y gwynt. Gwelais hwy'n blaguro ddechre'r gwan- wyn; yn eu llawn ogoniant ar hirddydd haf; yn melynu yn yr hydref; ac yn foel a di-ddail ym misoedd oerion y gaeaf. Yn nes ataf y mae gardd fechan, ac ynghanol blodau gwerinol y pytatw, y mae blodyn mawr urddasol yn sefyll fel arch-dderwydd yn ei wisgoedd claer ar lwyfan yr Eis- teddfod. Efe ydyw y "pabi cocrî." Sut y daeth i fysg blodau'r pytatw, nis gwn. Ond yr wyf yn falch o'i weld yno. Cynrychiola urddas llun a lliw ymhlith ei frodyr syml a chyffredin. Tebig eu bod hwythau yn mawrhau ei bresenoldeb. Y mae'r scarlet poppy yn gogoneddu rhan- CYF. LXXVII. RHIF 344. GORFFENNAF, 1922. I