Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CANMLWYDDIANT "CAPEL Y BEIRDD," EIFIONNYDD.* UN o arwyddion goreu y dyddiau hyn ydyw y coffad a wneir am bersonau enwog ac am leoedd hynod. Fe gan- haliwyd Dau-canmlwyddiant Williams Pantycelyn a Chan- mlwyddiant Ann Griffiths ers rhai blynyddoedd yn ol; a chynhelir Dau-canmlwyddiant Peter Williams, a Chan- mlwyddiant J. R. Jones, Ramoth, y flwyddyn hon. A chyn- helir Canmlwyddiant a Jiwbili yr achos yn fynych iawn mewn mannau. Cynhaliwyd Canmlwyddiant Pencoed ers rhyw ddwy flynedd yn ol, a Jiwbili Bryncir rhyw flwyddyn cyn hynny. A dyma chwithau eto yn cynnal Canmlwydd- iant yng Nghapel y Beirdd eleni. Can mlynedd i eleni y codwyd y capel cyntaf yma; ac y mae gennych hanes gwerth i'w goffau. Buasai yn resyn colli y cyfleustra i'w ddwyn i sylw. Mae hanes yn perthyn i'r ardal yma gan- noedd o flynyddoedd cyn adeiladu Capel y Beirdd. Fel y gwyddoch mae yma hen adeilad yn awr a elwir Capel-gallt- goed. Saif rhyw ergyd carreg oddiwrth y ffordd ar y chwith wrth fyned o Betws-bach i Betws-fawr, ac ar dir Betws- fawr. Bu gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynnal ynddo am amser maith. A digon tebig y bu hynafiaid rhai sydd yma heddyw yn cyrchu iddo i addoli am lawer o flynydd- oedd. Yr hen enw ar y lIe oedd Betws Maenhir neu Betws Talhenbont neu Plashen. Perthynai yr adeilad i eglwys Llanystumdwy yn ol pob tebig. Mewn plwyfi mawr a gwasgarog a rhannau pell oddiwrth eglwys y plwyf yn- ddynt, teimlid y dylesid gwneud rhyw adeilad crefyddol ar gyfer y rhannau mwyaf anghysbell. Gelwid y cyfryw le- oedd ar y dechre, gellid meddwl, yn Betws, ac ar ol hynny yn gapel. Gan fod afon Dwyfach yn rhedeg rhwng yr ardal hon ag eglwys y plwyf, yn gystal a bod yr eglwys *Dydd Mercher a dydd Iau,, Mehefin 14 a 15, cynhaliwyd cyfarfod pregethu, &c., i goffau yr amgylchiad uchod yn y lle hwn. Pregethid gan y Parchn. Mr. Nicholas, Llundain, ac Aaron Morgan. Am ddau o'r gloch, dydd Iau, cynhaliwyd cyfarfod i draethu ar y mater, pan y siaradwyd ar hynny gan y Parchn. Dr. Owen Davies, Aaron Morgan, a minnau. Paratoais fy sylwadau i'r TRAETHODYDD. (H. H.).