Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"IAWNDAL" YN OL EMERSON. MAE'N debig mai yr elfen amlycaf yng ngweithiau y llenor mawr Americanaidd yw yr elfen gyfriniol sydd yn ymwau fel llinell euraidd drwyddynt. Gwelir hi yn y mwyafrif o'i gyfansoddiadau, pa un ai ei draethodau cyffredinol, megis "Cariad," "y Bardd," Profiad," "Cymeriad," Callineb," ei Ddynion Cynrychioliadol," sef Plato, Swedenborg, Goethe, &c. Ei elfennau Seisnig," sef Medr," Gwirionedd," Crefydd," "y Personol," ei Gymdeithas a'i Unigedd," megis Gwareiddiad," Arluniaeth," Hyawdledd," Llyfrau," Gwroldeb." Ei Fywyd o ymddygiad," sef Cyfoeth," Prydferth- wch." Grym," — ai ynte ei lythyrau," megis "ysbryd- oliaeth," "mawredd ac "anfarwoldeb." Er fod Emer- son yn bregethwr mawr, fel llenor o'r radd flaenaf, yr erys ei goffadwriaeth yn fythol wyrdd. Yr erthygl y ceisiwn aros gyda'i hegwyddor yw "Iawndal," "Compensation." Nid "Iawndal" fel y mae yn ddeddf yng nghysylltiadau llafur ein gwlad; eithr yn hytrach "iawndal fel egwyddor gyfriniol ac ymar- ferol, yn treiddio yn ddistaw, ond yn sicr, drwy holl gwrs bywyd. Y mae y weledigaeth o honi yn egluro, yn cysuro, ac yn dyrchafu bywyd ym mhob gwedd a chys- ylltiad arno. Pe canfyddai y ddeddf hon yn ei gwahanol weddau, a fuasai dyn mor euog o'r pechod o rwgnach- rwydd ag ydyw ? Wrth ddarllen hanes yr hen genedl Iddewig cawn ein hunain yn rhyfeddu at oddefgarwch anfeidrol y Jehofah yn wyneb eu grwgnachrwydd. Ac onid ydym heddyw mor ddwfn yn y camwedd ag Israel gynt ? A hynny yn wyneb goleuni cliriach a daioni mwy. Pe gwelid y llin- ellau y gweithia yr Arglwydd yn ei ddaioni ar hyd-ddynt, ei drugaredd, a'i ffyddlondeb, diau y codid ni i ymddiried- aeth lwyrach ynddo ac i ymdrech fwy deallol. Mae'n bosibl yr ystyrir grwgnachrwydd yn ganlyniad anfoddlonrwydd sydd yn naturiol i ddyn, ac na ddylid ci gondemnio, am fod enaid dyn yn rhy fawr i'w foddloni gan amgylchiadau'r byd; ac na ellir chwaith disgwyl per- K