Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canys y mae yn ddiogel gennyf na all nac angau, nac einioes, nac angelion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, nac uchder na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddiwrth gariad Duw yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd." Canys ni a wyddom os ein daearol dy o'r babell hon a ddatodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd." Ac, meddai Apostol mawr Gobaith: Chwanegwch at eich ffydd, rinwedd, gwybodaeth, cymedrolder, amynedd. Canys, tra fyddwch yn gwneuthur y pethau hyn ni lithrwch chwi ddim byth. Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist." Llanrhaiadr. H. D. JONES. DR. EDWARD WILLIAMS, ROTHERHAM. Ystyrir y gwr enwog uchod yn un o'r rhai a osododd anrhydedd mawr ar Gymru er iddo dreulio ei oes lafurus allan o honi. Edrychid i fyny ato fel un o ddiwinyddion pennaf ei oes, ac efe yn ddiau ydoedd un o amddiffynwyr galluocaf Calfiniaeth ddiweddar. Ganwyd ef Tachwedd 14eg, 1750, mewn ffermdy a adnabyddir yn awr wrth yr enw Glanclwyd bach, gerllaw Glanclwyd bellaf, ac heb fod ymhell oddiwrth gapel cyn- taf y Methodistiaid yn Nyffryn Clwyd. Yr oedd ei rieni mewn amgylchiadau clyd, ac yn aelodau o Eglwys Loegr. Ymddengys iddo amlygu graddau eithriadol o feddylgar- wch, ac o ddwyster teimlad pan nad ydoedd ond plentyn bychan. Bu brawd ieuengach nag ef farw pan nad oedd ef ondttair mlwydd oed, a pharodd hynny iddo ymholi gy- maint ynghylch y byd dieithr y diangasai ei frawd bychan iddo, nes peri syndod o'r mwyaf i bawb o'i gwmpas, a chlywid lliaws yn gofyn, Beth fydd y bachgennyn hwn ?" Fel prawf o dynerwch neilltuol ei gydwybod, ac efe yn ieuanc iawn, adroddir iddo gael ei demtio rhywfodd i gymryd enw Duw yn ofer. Mewn canlyniad i hyn cafwyd ef wedi myned o'r neilltu wrtho ei hunan, ac yn wylo yn hidl, ac ofnai adrodd pa eiriau a arferodd wrth y rhai a