Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CRYN dawch y sydd ar hanes bore'r Gerdd yng Nghymru. Ni chyfyd am yn hir odid ddim a'r sydd oleuach na thyb neu awgrym. Honnir er hynny iddi darddu'n gynnar, ac nad gwiw gwadu teithi hen ei dawn a'i deunydd. Daw i'r golwg yn weddol glir yn hanner olaf yr unfed ganrif ar bymtheg, a gwelir hi mewn bri mawr o tua chanol yr ail ganrif ar bymtheg hyd yn agos i derfyn y ddeunawfed ganrif. Ar y wyneb gellid tybio iddi ymddangos yn sydyn o fewn y tymor hwn, ond o graffu ychydig, ceir ambell awgrym, a bair ymholi, ai ni ellir olrhain y camrau a esyd i'r gerdd ei lIe oesau'n gynt ym mywyd ein gwlad. Gwyddys i'r gân gychwyn yn gynnar o galon y genedl. Ceir ar gadw beth o'i cheinion er yn fore. Gesyd beirniad- aeth ddiweddar rannau o'r Gododdin, ambell ddarn o Lyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin, a Llyfr Coch Hergest, yn rhywle o'r nawfed i'r chweched ganriT. Yn ei llewyrch hefyd y try Aneirin, Taliesin, Llywarch Hen, ac eraill o'r Cynfeirdd yn debycach i rai a fu mewn cnawd, na phan wisgid hwy yn y ddiwyg laes, ar a oedd yn dwyn yn y wyneb lun a thoriad oesau nes atom. Teifl y Gododdin beth goleu ar ysbryd trist y Celt. Ceir ynddi fath ar gwyn coll am arwyr brwydr Catraeth-brwydr a gollwyd oher- wydd ymroi yn merw'r mêdd. Teimlir ynddi fin y gosb, clywir ynddi ubain y trallod, a gwelir ynddi wên y gobaith ar warthaf colli'r dydd. Dyma, ebe Stephens, yr unig gerdd yn llenyddiaeth Cymru sy'n deilwng o'r enw Arwr- gerdd." Eithr myn Caerhuanawc nad yw ond cyfan- soddiad telynegol-olyniaeth o benhillion heb fawr o gys- ylltiad rhyngddynt a'i gilydd"; a cheir yr Athro Ifor Williams yn cytuno mewn rhan pan ddywed, mai ffurf y farddoniaeth yw penhillion byrion," ac mai clytwaith yw o waith amryw feirdd heb fod yn gydoeswyr, ac nid un cyfansoddiad." Modd bynnag, ni wyddys i linell ohoni lynu ar lafar gwerin, oblegid cyll y cwbl yn y gwŷll sy'n ymgloi am ddefod ac arfer yr hen oesau. Ond erys yn ffaith i beth o geinion y beirdd, gan mwyaf yn alargwynion am arwr a thywysog, dreiglo hyd atom, ac wrth dreiglo ymnewid o ran dawn yn ogystal a deunydd. YR HEN GERDDI.