Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PRIF DDIWYGIADAU CREFYDDOL CYMRU YN Y GANRIF DDIWEDDAF. III. 1859-1889. DIWYGIAD 1859. Bu diwygiad arall ddeng mlynedd yn flaenorol, yr hwn a gyfyngwyd, yn bennaf, i'r rhannau mwyaf poblogaidd o'r Deheudir. Yr oedd gwir angen amdano. Dyfynnwn aran o History of Nonconformity in Wales," yr adrodd- iad canlynol amdano Defnyddiwn gyfieithiad y Parch. David Griffith, Bethel, yn y Geninen: "Yr oedd y flwyddyn 1849 yn hynod fel un o farnau a thrugareddau i drigolion Deheudir Cymru. Mewn ychydig wythnosau, bu i'r haint echryslawn, y cholera, ysgubo cannoedd ymaith yn ddisyfyd; a thrwy fendith ddwyfol a ddilynodd yr ymweliad arswydlawn, dygwyd miloedd i ystyried eu ffyrdd, a throi at yr Arglwydd. Am rai misoedd, yn ystod yr haf a'r tymor dilynol, gorlenwid yr addoldai yn y rhannau gweithfaol o Swyddi Mynwy a Morgannwg. Daeth tyrfaoedd o rai na welid byth mo honynt mewn lle o addoliad yn ystod y deng, neu y pymtheg, mlynedd blaenorol, i fod am dymor yn wrandawyr cyson; ac er i lawer o honynt, ar ol i'r haint fyned heibio, ddychwelyd at eu drwg arferion; eto y mae yn ffaith i nifer mawr o'r dosbarth hwnnw gael eu llwyr gyfnewid, ac hyd y dydd heddyw hwy barhant i fynychu ty yr Arglwydd. Ac am y rhai oeddynt wrandawyr rheolaidd o'r blaen, hwy yn awr a ymunasant â'r eglwysi. Yn ystod y tri neu bedwar o fisoedd ychwanegwyd dim llai na 9,139 at 67 o eglwysi Anni- bynnol yn Swyddi Mynwy, Morgannwg, Brycheiniog, a Chaerfyrddin. Ofnai llawer y byddai nifer anghyffredin o enciliadau gymeryd lle yn ddilynol i'r cynnydd disymwth hwn; ond ni bu i'w hofnau gael eu sylweddoli yn agos i'r graddau a ofnid." Dyma fel y sylwa Cemyw ar hyn: Cyrchai y lliaws i gyfarfodydd gweddïau yn yr addoldai, ac ym- unai tyrfa gref o bob oed â'r eglwysi; ond gwneid hynny mewn dychryn. Ac felly, yn naturiol, pan giliodd yr haint ciliodd yr ofn, a gwaethaf modd, ciliodd y lliaws yn ol." Mynnai yr enwog Stead, fod pob cyffroad crefyddol o'r fath yn canlyn llygredigaeth a dadfeiliad mawr. Yr oedd hyn yn wir am ddiwygiad '59. Yr ieuenctid, yn arbennig, oeddynt yn y camwedd. Yr oedd gan Dduw ei weithwyr cyson yn y blynyddoedd ymlaen y diwygiad, y rhai a ddygn fwrient yr hâd i'r ddaear, gan fwydo'r meysydd â'u dagrau. Yr oedd cledwch rhai mewn annuwioldeb yn gyrru ereill