Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. EPISTOL CYFFREDINOL IAGO YR APOSTOL, GYDA RHAG- LITH A NODIADAU EGLURHAOL, gan J. Puleston Jones, M.A., Llanfaircaerceinion. Cyhoeddedig gan y Gymanfa Gyff- redinol, 1922. Td. lxviii., 112. 3/ Ailargraffiad heb nemor ddim cyfnewidiadau yw hwn o'r Esbon iad gan yr un awdur a gyhoeddwyd yn 1898. Diwygio hen esbon- iad yr oeddwn, nid ysgrifennu un newydd." O safbwynt eglurder ymadrodd, gwreiddiolder meddwl, a gallu esboniadol saif y gyfrol hon yn gyfystlys â'r goreuon yn y gyfres y perthyn iddi; ac o ran mireinder arddull a chywirder iaith saif ar ben y rhestr — o leiaf dyna'n barn bwyllog ni. Yr ydym yn bobl wych iawn," ebe R. L. Stevenson, "ond ni fedrwn ysgrifennu fel Hazlitt;" ac er fod yng Nghymru gryn dwysged o bobl deilwng, nid rhyw lawer ohonynt a fedr ysgrifennu fel y medr ein hawdur a gyfrifir yn un o benaduriaid ein llên- Onid yw ei arddull yn y gyfrol hon gyn llyfned â dylifiad ffrwd;, ac mor glir a grisalaidd â'r eiddo'r un critig Ffrengig ? Ac nid yr arddull yn unig sy'n goeth, eithr ffroenir aroglau athrylith ar bob tudalen, a da pe ceffid rhywun i Foswel- eiddio dywediadau'r awdur parchedig yn yr Esboniad hwn ac mewn llyfrau eraill o'i eiddo. Yn y cysylliad hwn, a chyda llawer o ddifrif- wch, carem ddiferu awgrym fod yn hen bryd i'r Pwyllgor sy'n penodi awduriaid i'r Esboniadau hyn gymryd rhagor o bwyll, a gweled bod safon lenyddol y gyfres yn cael ei chodi. O safbwynt llenyddol, mae rhai o'r Esboniadau a gaed yn waradwydd i ni, yr awduriaid heb fedru eu mamiaith. Fe gynnwys y gyfrol ddestlus hon, sy'n lanach o ran ei hargraff- waith na'r hen un, Raglith, Nodiadau Eglurhaol (yn cynnwys ysgrif- au ar rai o brif faterion yr Epistol), Cyfieithiad ac Arholion. Yn y Rhaglith, sydd yn un gwymp, ceir cipdrem ar bron bob pwnc a berthyn i'r Epistol. Mae'n amlwg fod yr awdur wedi ymgyfar- wyddo â'r holl awdurdodau diweddaraf, ac nid oes dim, dybiem ni, ynglyn â'r Epistol nas ceir yma. Ac mae'r Nodiadau Eglurhaol a'r Erthyglau, yn wir y llyfr drwyddo, yn hawdd ei ddarllen, a dawn nwyfus yr esboniwr a'r pregethwr yn cyfareddu dyn ar bob tudalen a. dyna hanner y mater. Gan mai ar gyfair yr Ysgol Sul y bwriedir yr Esboniadau hyn, dylai'r Esboniad fod yn rhywbeth heblaw eglur- had noeth ar y testun. Mae glossology yn burion i brgethwrj, ond da gan Gymro a deiliaid yr Ysgol Sul gael tipyn o "sylwadau. Esbon- iad a thipyn o'r pregethwr ynddo yw'r Esboniad poblogaidd yng Nghymru. Gyda golwg ar amseriad yr Epistol, dyma'r casgliad y daeth yr awdur iddo yn 1898 — nid yw'r Epistol yn gynarach na 44 nac yn ddiweddarach na 50; a thebig yw ei farn heddyw. Diau y gellir dywedyd nad oes dim cyfieithydd gwell yng Nghymru nag awdur yr Esboniad hwn. Byddwn yn wastad yn rhyfeddu at ei fedr yn y cyfeiriad hwn. A gwaith a champ arno yw'r cyfieithiad newydd a geir yma, a gwneir pob chware teg â phriodidulliau'rnaith. Fe gofir wedi darllen y cyfieithiad eilchwyl ac eilchwyl, a chael ei fod yn esboniad ynddo'i hun. Cynghorem y darllenydd i wneuthur yr un peth, a pheidio ag esgeluso y Rhaglith a'r Erthyglau er dim. Ac mae'r Arholion ar y diwedd yn bopeth a ellid ei ddymuno, ac yn rhwym o fod yn wasanaethgar iawn i'r athrawon a'r dosbarthiadau. Ceir y gair anghyfiaith yn y Rhagymadrodd i'r argraffiad hwn ac yn yr hen Ragymadrodd. Beth yn union yw ystyr y gair ? Purion peth fuasai fod yr hen Ragymadrodd wedi ei ddyddio i nadu i ambell walch gael cyfie i ysmalio.