Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tybed a geir byth lyfr allan o'r Wasg Gymreig heb wallau argraff a gwallau eraill ? Onid oes modd cael rhywun yn rhywle yn ddigon craff ac amyneddgar i ddarllen a chywiro proflenni? Yi ung nam ar y gyfrol hon yw mân frychau nad oes dim ond brys a diotalwch ar ran rhywrai yn atebol amdanynt. Hawdd gennym gredu fod yr awdur ei hun yn hyn o fater mewn stât o ddiniweidrwydd. Dyma rai pethau ­gellid nodi rhagor-sydd, ni a dybiem, heb fod yn unol â'r canonau diweddaraf :-rhanwyd, poeni'm darllenwyr, pan y byddai, math o, i gynrychioli'r oll, beidio cyrraedd, daflu'm mlaen, ni atebodd, yng ngwyneb, ebai, mo honno, sy'n cynnyg ei hun, difynnu, troion, 'sgri- fennu, nifer fawr, nis igall, meusydd, brydnawn, awdwr, os na, Iuddewig, lliosog, mai-nid, diwylliant, perygl, prif-ffordd, cymesuredd, cysylltiadau, Sir Henry Main, y gallaf (yn lle y gallai), ei ddarllen (yn 11e eu darllen). Ar ambell un o'r mân brwyntiau hyn byth hwyrach ni bydd dyun dau Gymro. Dylai'r Esboniad hwn werthu wrth y miloedd-yr Esboniad goreu yn yr iaith, a chymryd popeth i ystyriaeth. Yalley. R. HUGHES. AN ELEMENTARY WELSH GRAMMAR, by Sir Morris-Jones, M.A., LL.D. Part I. Phonology and Accidence. Oxford, At the Clarendon Press, 1921. Pp. xv., 197. Pris 3/ Eu hiaith a gadwant," ebe Taliesin Ben Beirdd. Er pob gores- gyniad fu ar ein gwlad-yr un Rhufeinig, Seisnig, a Normanaidd- llwyddasom i gadw'n hiaith. Mawr fu effeithiau'r goresgyniadau hyn, ond goroesodd y Frythoneg y peryglon i gyd; ac er y perigl bywyd y bu'r iaith ynddo wedi hynny yn yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg, y mae mwy o hoen bywyd yn y Gymraeg heddyw nag erioed; a phroff- wydir iddi yn y Welsh People gryn lawer o flynyddoedd da eto, serch y cenfydd yr awduriaid yn glir y diwrnod yn dyfod pryd mae'r Saesneg fydd iaith pawb yn y deyrnas hon Ac nid yn unig cadwyd yr iaith, ond fe'i meithrinwyd, a gwnaethpwyd aml 'gynnig at ei hegluro gan Gymry a thramorwyr Yr Elementary Grammar hwn yw'r cynnig di- weddaraf Ac mae cryn bellter mewn amser rhyngddo ac Antiqvae Lingvae Britannicae Rudimenta Dr. John Davies o Fallwyd, heb son am Rudimenta Dr. Siôn Dafydd Rhys, Dosỳarth Byrr Dr. Griffith Roberts, a Dosparth Edeyrn Davod Aur a dirfawr wahaniaeth cyn- nwys rhyngddo a'i holl ragflaenoriaid hen a diweddar-ac eithrio, wrth gwrs, ei frawd hyn a welodd oleu dydd yn 1913 A Chymraeg llenyddol diweddar yn unig-o Ddafydd ap Gwilym hyd ein dyddiau ni-yr ymdrinir yn y llyfr bychan hwn, a dilynir yr un llinellau ynddo ag a wneir yn y Gramadeg mawr, so far as that treats of the modern language; but the matter has been largely re- written, and is in some respects more detailed. Pan oeddem ni'n dechreu astudio Saesneg gyda thipyn o ddifrifwch Morris bach a Morris fawr oedd mewn bri-coffa da amdanynt; a dyma Forris bach a Morris fawr arall (canys felly droeon y clywsom eu galw eisoes) yn ymwneud â'r Gymraeg, y falchaf o'r ieithoedd, chwedl Griffith Roberts. A hyfryd yw meddwl bod argraffiad Cymraeg o'r Elementary Grammar ar hwyl cael ei gyhoeddi. Diau y bydd galw mawr amdano, achos yn un peth mawr yw cywreinrwydd dyn i wybod sut y trosir rhai termau a ymddengys i lawer ohonom yn anghyfieith- iadwy. Gwnaeth Emrys ap Iwan yn ei Gamrau (yn lle Camau yn ol y ddysg newydd) waith da-yn y cyfeiriad hwn