Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. BEIRNIADU BEIRNIAID. PETH difyr iawn yw eistedd i lawr yn hamddenol braf i feirniadu beirniaid, a hynny o dan ffugenw. Pe digwydd- ai i rai o'r beirniaid golli eu tymer wrth ddarllen fy llith, a cheisio profi (yr hyn beth a allent yn rhwydd) mai myfi yw'r dylaf wr a ymgymerodd â syfennu i'r wasg er- ioed, ni byddwn ronyn gwaeth, oblegid ni wybyddai neb pwy fyddai tan yr ordd ond y Golygydd, ac y mae ef yn rhy anrhydeddus i fradychu cyfrinach mor bwysig. Daeth i'm llaw y dydd o'r blaen gyfrol yn cynnwys Barddoniaeth a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1921. Cyhoeddwyd y gyfrol dan olygiaeth Vinsent, ac argraffwyd hi yng Nghaerdydd, am, mae'n debig, na fedrai argraffwyr unrhyw Gaer arall argraffu pethau mor awenyddol ag a geir yn y gyfrol hon. Poed hynny fel y bo, y mae hon yn gyfrol ddiddorol a gwerth- fawr ryfeddol, ac, o'r ddau beth, y mae'r Beirniadaeth- au'n fwy felly na'r Farddoniaeth. Ni raid ond bwrw bras-olwg dros restr y Beirniaid na chanfyddir fod yn eu mysg rai o wyr dysgedicaf ein gwlad. Mae yma rai sydd yn gallu dechreu drwy ddywedyd wedi deugain mlynedd o feirniadu;" prin y mae eraill wedi bwrw eu prentisiaeth. Mewn gair, cyrhaeddant o Ddyfed a'r Athro John Morris- Jones hyd at Williams-Parry a Parry-Williams. Nid oes ddau a ddyrysa fwy arnaf na'r ddau hyn. Ni wn i yn y byd prun yw prun. Gwn nad Williams-Parry yw Parry- Williams, ac nad Parry-Williams yw Williams-Parry, a gwn hefyd fod "Parry-Williams yn dod o Ryd-ddu a Wil- liams-Parry o Dalysarn, neu fel arall. Heblaw hynny gwn fod Williams-Parry yn gefnder i Parry-Williams neu Parry-Williams yn gefnder i Williams-Parry, neu ynte fod y ddau yn gefndyr i'w gilydd. Gresyn, yn fy marn i, na buasai Parry-Williams wedi ymroi i ysgrifennu'n helaethach. Prin y gwnaeth gyfiawnder ag ef ei hun fel CYF. LXXVII. RHIF 345. HYDREF, 1922. N