Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TAWCH melynddu ar y bryniau, Yn yr wybren, gwg a braw: Hirllaes ru'r taranau glywir, Dawnsia'r mellt ar drumau draw. Dwys funudau mewn distawrwydd Ger y gamfa, mi a hi Llaw fach wen yn crynu'n ofnus Yn fy llaw grynedig i. Gwelwn wyll rhyw brudd-der dieithr Dan ei thlws amrantau hi, Duw a wyr! 'roedd ofn a dychryn Hwythau'n gwelwi ngruddiau i. Ceisiwn guddio'r dychryn rhagddi, Cuddio'r ofn â chwerthin prudd. Chwerthin ysgafn cyfnos ydoedd Pan mae'r nos yn trechu'r dydd. Yng ngoleuni'r mellt y chwarddem, Ac wrth ganu ffarwel prudd Ãg arafwch poenus, cyndyn Aeth y llaw fach wen yn rhydd. Cipiais drem ei hawddgar wyneb, Gwelais ei ddigymar swyn. Rhag ei thlysed, hawdd oedd credu I Un farw er ei mwyn. Ar fy nwyrudd, nef ddi-dostur Boerai ddirmyg oer y glaw. Ac roedd hirllaes ru'r taranau Yn y tawch melynddu draw. WYN WILLIAMS. Dolgellau.