Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PREGETHWR A PHROBLEMAU DIWEDDAR. Ni ddichon y gwr mwyaf gobeithiol bellach ameu nad ydyw'r pregethwr heddyw wedi disgyn ar amseroedd mwll ac anodd ar grefydd. Tra y mae ei swyddogaeth gysegredig yn ei orchymyn ac yn ei ymrwymo i genadwri y gwyr y gwr da sy'n hanfodol, y mae yntau yn cael ei orfodi i fod yn dyst o ddiofalwch a diystyrwch cynhyddol (ymddangosiadol beth bynnag) tuag at sefydliadau a def- odau cysegredig, o ddirywiad mewn mynychiad o Dy Dduw, ac hefyd o wendid crefydd fel awdurdod terfynol. Tadogir yr arwyddion anesmwyth hyn ar achosion moesol a chymdeithasol. Ein diddordeb di-ollwng mewn pethau materol, ein syched anniwall am bleser a mwyniant, ac y mae rhain yn codi drachefn o addysg arwynebol, ac yn esgor ar ddifrawder ac amharchusrwydd o ddydd yr Ar- glwydd, ac nid y lleiaf ohonynt ydyw datgorfforiad o'r bywyd teuluol ac o awdurdod rhieni ar eu plant. Atebir yr eglurhadau hyn drwy faentumio fod y byd yn myned yn well-ac nid yn waeth, a bod yr ystyriaeth o gyfiawnder, a chydymdeimlad gweithredol dros y tlawd a'r dioddefus, yn cael mwy o le gennym nag erioed o'r blaen. Ond i ddwyn hyn oddi amgylch, y mae'r Eglwys drwy ei nerth a'i dylanwad cyfriniol wedi cyfrannu'n anrhydeddus. Y gwelliantau moesol a chymdeithasol hynny a dybir iddynt gael ei bod a'i cynhaliaeth y tu allan i'r Eglwys; onid i'r Eglwys y maent yn ddyledus am yr hâd, ac onid o dan nawdd yr Eglwys hefyd y tyfodd yr hâd yn wreiddyn a changen ? Y mae'n aros eto i'w brofi pa fath gnwd a dyf mewn tir lIe y mae ei lafurwyr wedi cefnu ar gysegr-leoedd y Jehofa. Ond tybed a oes arwydd gwirioneddol o ddi- rywiad yn y diddordeb a deimlir yn y grefydd Gristion- ogol? Os ydyw'r grefydd Gristionogol yn gynwysedig mewn cyfres o athrawiaethau diwinyddol, y rhai fu'n faes brwydrau lawer rhwng diwinyddion cydymgeisiol am gan- rifoedd, dichon ei bod. Ond perthyn i wyddoniaeth (science) crefydd ac nid i'w hanfod a wna'r pynciau hyn. Y mae Cristionogaeth wedi llwyddo, nid oherwydd ei bod yn Ddwyfol-ond oblegid ei bod mor ddynol. Ac os ydyw crefydd ddiwinyddol yn ddyrys ac anodd ei deall, y mae'r grefydd ddyletswyddol yn ddigon eglur.