Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARCH. JOHN PRICHARD, BIRMINGHAM. TEIMLAF rhyw wrthnaws i'r ymadrodd y diweddar gan faint yr argyhoeddiad ei fod yma eto o ran ei addysg, ei gymeriad a'i ddylanwad. Ystyriaeth wahanol sydd yn peri graddau o amheuaeth ynof parthed priodoldeb yr ys- grif hon. Hysbys yw fod amryw wedi ysgrifennu am y gwrthrych uchod cyn ac wedi ei symudiad. Ac ymddeng- ys ar yr olwg gyntaf yn ddianghenraid ychwanegu ymad- rodd. Traethwyd gan wyr blaenllaw a phrofiadol, a chyda hynny brodyr yn cydoesi, ac mewn ffordd, yn cyd- drigo ag ef am flwyddi maith. Dodwyd gerbron gan- ddynt yr hyn oèdd gyraeddadwy, os nad yn hysbys, o'i hanes. Dilynwyd hynny gydag argraffiadau o'i gymer- iad a'i waith. Yr unig ystyriaeth, gellid meddwl allai gyf- iawnhau parhad o'r gwaith fuasai meddiant o ffeithiau newydd. Nid wyf yn sicr y gallaf fodloni y darllenydd hyd yn oed yn hyn. Ond fel mab i'r gwr yr ysgrifennir amdano y mae i mi fynediad at rhyw fanylion-nid manion -allant ddwyn gwedd o newydd-deb. Ymdrin â ffeithiau noeth yw y bwriad ac nid ymdrech i adeiladu unrhyw ddamcaniaeth, na seilio unrhyw addysg. O ochr ei fam yr oedd i fy nhad gyfathrach glir a syl- weddol ag enwad parchus y Bedyddwyr. Nid oedd yn foddlawn ymhob cysylltiad i rai casgliadau a dynnid oddi- wrth hynny. Ond am y ffaith, nid oedd ganddo awydd i'w gwadu. Yr oedd ei daid, John Thomas, yn weinidog adnabyddus gyda'r enwad uchod. Mewn llythyr, ger fy mron yn awr, aiff y Parch. Spinther James i fewn yn fanwl i'r ffeithiau, gan olrhain rhieni y Parch. J. Thomas. Cawn hanes ei argyhoeddiad o dan weinidogaeth Christmas Evans, a'i fedydd trwy weinyddiad y Parch. Daniel Davies Felinganol. Dechreuodd bregethu yn 1795, a dewisodd yn fuan wedyn ferch ieuanc o Fon yn gymar bywyd. Der- byniodd alwad i Lanrwst yn 1803, a phregethwyd ar ei sef- ydliad gan y Parchn. Christmas Evans, Thomas Jones a R. Roberts. Ymddengys ei fod yn wr o allu a gwrteithiad meddwl go helaeth. Hysbys iddo gyhoeddi o'r hyn lleiaf dau lyfr p