Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ar glawr yr unig gyfrol a gyhoeddodd fy nhad- Efrydiaeth "-gwelir a ganlyn, I'm hannwyl briod, heb yr hon ni buaswn heddyw nac awdur na phregethwr." Ystyriai beunydd ei rwymedigaeth difesur i'w gymar byw- yd, merch y diweddar Hugh Jones, Dolgellau, a chwaer i'r adnabyddus Dr. Edward Jones. Bu iddo yn ymgeledd gymwys ar hyd ei oes. Tystia cyfaill amdani fel un oedd ar gyfrif ei galluoedd meddyliol, ei bonedd a'i gras yn llenwi gydag urddas y swydd o wraig i weinidog yr Efengyl." Cyfansoddai ei bregethau yn ofalus. Ysgrifennodd y rhan fwyaf ohonynt mewn llawysgrif glir a phrydferth. Pan ofynnid iddo pa fodd y daliai ati i wneud pregethau newydd, O," meddai, mwyaf y myfyrdod mwyaf y defnyddiau." Ac meddai wrth fy mam un tro, — Mae y Beibl yn Anfeidrol, fel Duw." Ni phallodd y defnyddiau. Ond rhaid ystyried cyfyng- iadau y gofod, a hefyd llwyddais i gael gan y Parch. John Owen, West Kirby, hen gyfaill i fy nhad, ac-fe1 y dengys ei ysgrif-i roddi ei farn a'i deimlad amdano fel Pregeth- wr. Nid dyma y caredigrwydd cyntaf o'r fath weinyddodd Mr. Owen i mi, a theimlaf rwymedigaeth calon iddo. Chwilog. J. T. PRICHARD. Y DIWEDDAR BARCHEDIG JOHN PRICHARD FEL PREGETHWR. Gofynnir i mi ychwanegu ychydig o sylwadau am ein diweddar frawd a thad. Cyfyngaf fy sylwadau amdano yn bennaf fel pregethwr. Prin y gellir rhestru Mr. Prichard ymhlith pregeth- wyr poblogaidd yr oes aeth heibio; eto cytuna pawb a'i clywsant yn fynych ac a ddarllenasant ei bregethau ar- graffedig yn yr Efrydiau Diwinyddol ei fod yn un o bre- gethwyr rhagoraf ei gyfnod, ac yn un a feddai nodweddion amlwg ac eithriadol. Sylwai y diweddar Dr. Hugh Jones, y gweinidog Wesleaidd adnabyddus, mai un o'r elfennau o nerth Methodistiaeth Galfinaidd Gymreig ydoedd y nifer o bregethwyr rhagorol a feddai yng ngwahanol siroedd Gogledd Cymru, a chredwn y gellid gwirio hyn drwy eng- hreifftiau a geid yng ngwahanol rannau ein gwlad. Ceid