Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWERINIAETH: EI DELFYRAU A'I PHER- YGLON. I. RHAGARWEINIOL. TARDD y gair gweriniaeth o'r gair gwerin, yn golygu y bobl yn gyffredinol. Felly gallwn gasglu mae rhyw- beth yw Gweriniaeth y mae a wnelo mwyafrif y bobl, mewn cenedl neu gyfundrefn, ag ef. Gyda threigliad yr oesau daeth y gair i olygu y ffurf honno 0 lywodraeth y mae y bobl i raddau pell iawn yn llywodraethu eu hunain drwyddi. Hwyrach mae y cyfieithiad Saesneg o'r gair gweriniaeth fuasai democracy neu republic. Daw y gair democracy o'r gair Groeg demos, yn golygu y bobl, a'r gair kratos yn golygu nerth. Golyga y ffurf honno 0 lyw- odraeth a geidw y gallu uchaf yn nwylaw y bobl yn gyff- redinol. Tardd y gair republic o'r geiriau Lladin res, yn golygu cyfundrefn (state), a publica, yn golygu y cyhoedd. Y dehongliad goreu o'r gair hwn yw cyfundrefn, yn yr hon y ceir y gallu uchaf yn nwylaw cynrychiolwyr y bobl. Rhyw gyfuniad o feddwl y ddau air yma yw y gair Cymraeg "gweriniaeth." Yn ddibetrus, felly, ffurf ar lywodraeth yw gwerin- iaeth. Naturiol gofyn beth yw tarddiad y syniad o lyw- odraeth ? Golyga llywodraeth gyfaddefiad o hawl rywun neu rywrai i drefnu a gweinyddu achosion y cyhoedd. Ceir dwy brif ddamcaniaeth gyda golwg ar darddiad y syniad o lywodraeth. i. Un a olrhain darddiad llywodraeth i addjoliad o rhyw dduw neu dduwiau arbennig. Hynny ydyw, cyf- undrefn wedi ei sefydlu gan ryw dduw arbennig ac yn gwbl odditan ei lywodraeth ef. Er enghraifft o hyn gall- wn gymryd cenedl Israel yn ol ei hanes yn y Beibl, fel cenedl etholedig Duw, ac yn cael ei llywodraeth trwy orchymyn Duw. Yn fyr, Duw-lywodraeth ydyw (theo- cracy). O'r syniad hwn y datblygodd y ddysgeidiaeth am ddwyfol hawl y brenin. 2. Y llall a olrhain darddiad llywodraeth i gyngrair rhwng cymdeithas o bobl â rhyw wr neú wyr arbennig.