Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ANGEU'R BRYN A BEDD YR ARDD. DAN ddyfnaf ing yn trengu mae'r Iesu ar y pren Rhag syllu ar yr hoelion ymguddia haul y nen, A beth yw'r cyffro deimla y bobloedd,-dan eu traed Y ddaear sydd ar lethu dan lwyth y dafnau gwaed ? Yr olaf un o'r geiriau a ddaeth o'i wefus bur Cyn hyfryd farw allan o'i ddirdyniadau hir Oedd, Dad, i'th ddwylaw rhoddaf fy ysbryd hyd yr awr I'w gael yn ol ar fore fy muddugoliaeth fawr. Bydd pechod, angeu, uffern, yn ddim y trydydd dydd Pan ddof fel llawn orchfygwr o rwymau'r bedd yn rhydd.'1 Paham, o bawb, y gwelir Tywysog dae'r a nen Fan acw gyda lladron i angeu'n plygu pen ? Tri rheswm sydd i'w rhoddi am ei farwolaeth Ef, Y byd, ni gawn yn gyntaf yn dy elyniaeth gref, A'i anorchfygol gariad ei hunan ydyw'r ail, I'r trydydd y mae'r Drindod a'i gras at ddyn yn sail. Iddewon gwael, ai dyma'r derbyniad roddwch chwi I'r Brenin a ddaeth atoch i lawr o'i Ddwyfol fri­- Gorymdaith drom Golgotha, y drain a'r myrllyd win, A chroes yn orsedd iddo, a gwawd fel cawod flin ? Ac addef rhaid i minnau, fod gan fy meiau i Law fawr mewn codi'r groesbren, a'i hoelio arni hi. A'n beiau byth ni welir yn eu maintioli llawn, Ond pan edrychwn arnynt yn angeu Gŵr yr Iawn. Er chwerwed arteithiau ei deimlad corfforol, Mil chwerwach i'w feddwl oedd ei Dad Dwyfol- Y cwpan lanwasom ni iddo a'n pechod, A'r hwn a gynhwysai ein huffern ddiddarfod. Nid poenau y croesbren ddwg angeu i'w ddwyfron, Ond ingoedd ei enaid a dorrodd ei galon. Tra'n fyw yr oedd Iesu braidd fel at drugaredd Diaflaid a gwaedgwn o ddynion i'r diwedd, Ond Hollalluogrwydd o gylch ei gorff marw A wyliodd na wnelid dim amharch i hwnnw. Yn ol proffwydoliaeth, un asgwrn ni thorrwyd Ohono, a'i ystlys a phicell a wanwyd,