Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD. PEDAIR CYMWYNAS PANTYCELYN, gan Moelwyn. Cyhoedd- edig ac ar werth gan Alun a Meurig Hughes, 10, Reedville, Birkenhead. Pris 2/ Cludiad 2C. Dywed yr Awdur mewn Rhagair mai nid ysgrifennu hanes Wil- liams Pantycelyn yw ei fwriad. Gwerthfawrogiad o'r emynydd, cynnyg ar esbonio rhai o'i emynau, cais i nodi ei brif gymwynasau, ac i egluro eu hystyr a'u pwrpas,-dyna sydd gennyf fì." Ymhellach ymlaen, gyda gwylder mynega ei fod yn arswydo rhag ofn ei fod yn amddifad o'r ddawn rheitiaf i fedru deall awenydd ysbrydol fel Wil- liams, sef ysbrydolrwydd meddwl a synnwyr awen, canys, eb ef, heb- ddynt hwy annichon ydyw ei ddeall a'i esbonio. Dug yr awdur deyrnged i'r ymdrech ddiweddar i fawrhau y pêr Ganiedydd, yn enwedig gan y beirdd. Ond yn ol ei dyb ef, gwyrwyd barn yn ddy- bryd gan y gwyr da a geisiodd ei egluro, nid am eu bod yn brin o ysbrydolrwydd eithr am na feddent na llygad na chalon awenydd. Oddiar ymdeimlad o ddyletswydd i geisio unioni eu cam-farnau, ac i nodi hefyd rai o gymwynasau Williams-a rhai lled bwysig na chyffyrddwyd â hwynt o gwbl, yr ymgymerwyd a'r gwaith sydd ger ein bron. Ceir llawer o bethau da yn y Rhagymadrodd yn yr ymdriniaeth ar dri nod angen proffwyd-" y dyn a'i adeg, a'r tragwyddol," — a'r tri yn cyfarfod ym Mhantycelyn. Bwrir cipdrem ar Hanes yr Athraw- iaeth Gristionogol i ddangos drwy enghreifftiau tarawiadol mai o amgylch ryw un gwirionedd mawr y try popeth a ddywed proffwyd. I Williams baich gair yr Arglwydd ydoedd Crist ac anfeidrol werth ei Aberth drud." Dyfynnir yma farn y Prifathro T. C. Edwards mai ef oedd prif ddiwinydd Cymru," a thystiolaeth y Dr. Lewis Ed- wards mai ef o bawb, ar ol yr apostol Paul, a ddeallodd oreu hanfod yr Efengyl." Nid yw Moelwyn yn ol iddynt yn ei fawrhad o Wil- liams fel bardd ac emynydd. Dywedwyd eisoes bod rhannau o bryddestau Williams yn gyfwerth â'r goreu mewn unrhyw iaith. Gellir dywedyd rhagor amdano fel emynydd Ni chyfododd neb cyf- uwch ag ef mewn unrhyw oes na gwlad." • O holl emynwyr yr Eglwys Gristionogol, ef yn anad un yw emynydd pob tymer ar ys- bryd, pob tywydd, pob tymor. Dyma'r gaeaf oerfelog-yr awel yn chwiban trwy'r llwyni di-ddail-popeth wedi rhewi ond yr emyn Dyma'r gwanwyn ysgafn, a nerthoedd distaw yn peri i flagur-ddail bywyd newydd flaendarddu. Dyma'r haf hir-felyn tesog," ac wedi cynhaeafu'r cnydau a'u cywain i'r ysguboriau, gorwedd yr emynydd yngwely'r perlysiau a gwlych ei ysgrifbin yn yr enfys Dyna'r Hyd- ref odrist, a'r proffwyd yn ymhwylio'n araf, sobr-ddwys, a swn y crinddail tan ei droed; ond yn symud tan ganu, serch hynny-ryw drydar lleddf-dyner, fel acen colomen." Dyfanasom y paragraff hwn i ddangos dau beth, mawrhâd yr awdur o'i wrthddrych, a thlysni a godidowgrwydd ei arddull Gymraeg. Bron nad allem ddweyd er hyfryted a phereiddied ei gyffyrddiad telynegol-a dengys Caneuon Moelwyn y fath gamp ar hyn,-ei fod yr un mor feistrolgar ar y gelfyddyd o ysgrifennu mewn rhyddiaith gain a chaboledig. Ychydig iawn sydd felly. Gwelwn fod Syr Arthur Quiller Couch yn ei gyfrol ddiweddaf ar STUDIES IN LITERATURE (Second Series, 1922), yn egluro