Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. SYR HENRY JONES-Y DYN A'R ATHRONYDD. NID wyf yn tybied bod pawb yn ddieithriad yng Nghymru heddiw yn diolch i Dduw am Syr Henry Jones a'i athron- iaeth. Eto cydnebydd pawb ystyriol na fedd y Nefoedd gyfoethog ddrutach rhodd i'w hestyn i genedl na dynion cyffelyb iddo. Cenedl fechan yw ein cenedl ni, er hynny rhodldwyd iddi liaws o wýr na roddwyd eu gwell, o bosibl, i unrhyw genedl er dyddiau'r Groegiaid gynt. Y mae'n bwysig iawn i'n llwyddiant uchaf nid yn unig fod corff mawr ein pobl yn cael eu dyrchafu'n gyson a'u, goleuo fwyfwy yn eu deall a'u meddwl, ond hefyd fod Creawdr pob dawn yn rhoddi inni ambell un a fo'n llawer mwy na lliaws ei gydoeswyr, ambell i gawr y gorfydd i genhedl- aeth gyfan blygu yn ei wydd a'i gydnabod yn dywysog. Cydnebydd pawb, hyd y gwn i, mai un felly oedd Henry Jones. Cychwynnodd mewn dinodedd. Mab y bwthyn bach ydoedd. Ar fainc y crydd, wrth ochr ei dad, yr aeth drwy ei brentisiaeth. Gwneuthur esgid ddiguro oedd ei uchelgais pennaf ym mlynyddoedd cyntaf ei febyd Ac ni bu gywilydd ganJdo hynny, na chywilydd ganddo atgofio eraill am hynny, mewn unrhyw gylch hyd ddiwedd ei oes. Gwlith y Nef a gadwo'i goffadwriaeth yn wyrddlas fyth am na chafwyd ynddo ronyn o'r mursendod a'r coeg- falchter a gancrodd dalent llawer Cymro. Defnyddiodd ledr y crydd yn gymhariaeth yn ei lyfr mawr diweddaf, heb ofni i hynny godi atgof yn y darllenydd a berai ddirmyg o'r awdur. Lles i galon pob Cymro iach, pob Cymro Cymreig-ac y mae pob Cymro Cymreig yn iach-oedd clywed un o wladweinwyr pennaf ei oes, gwr a anrhydedd- wyd yn fawr gan frenhinoedd a thywysogion, yn siarad mor rhydd ar lwyfan Eisteddfod Pwllheli am hen weithdy bach ei ewythr a bywyd ei fachgendod yno. Ar lwybrau cynefin y werin dlawd y cyfeiriwyd traed Henry Jones gyn-