Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAES LLAFUR 1925-1926. (Actau xiii.-xxviii.). PETH digri, a didrefn, ar ryw olwg, ydyw dechreu llyfr ar ei ganol. Nid gwaith hawdd ydyw dosrannu hanes person, neu hanes eglwys, oblegid y mae'r naill gyfnod yn rhedeg i'r llall, a thipyn o gamp ydyw nodi allan y llinell derfyn. Er hynny gellir gweld trwy graffu ein bod yn dechreu, mewn rhyw ystyr, ar gyfnod newydd trwy gychwyn ein maes llafur yn y man y gwneir. Gwelir Saul yn awr yn mynd yn Baul. Nid dibwys hynny, a chaniatau y dygai'r apostol yr enw Paul gystal a Saul o'i faboed. Arwydda'r newid yn yr enw, 0 leiaf, bod yna rhyw newid yn cymryd lle yn amgylchfyd a gwaith yr apostol. Dichon ei fod hefyd, fel yn hanes Jacob, yn cynnwys i ryw fesur gyfnewidiad ym mywyd a chymer- iad Saul o Tarsus. Gwelwn bod yr arweiniad amlycaf yn hanes yr Eglwys yn awr yn mynd o law Pedr i raddau lled bwysig, ac yn canolbwyntio fwyfwy ym mherson yr apostol Paul. Gwelir hefyd ganolfan yr Eglwys yn graddol symud o Gaersalem i Antiochia yn Syria, a daw Asia Leiaf yn y man, ac yn enwedig talaith Asia, yn ganolfan ysbrydol Cristnogaeth am gryn amser i bob golwg naturiol. Cred- wn mai anfantais i'r Eglwys ydyw glynu wrth unrhyw ganolfan yn rhy dyn ar y ddaear. Fel y Cristion, per- erin ydyw hithau yn y byd sydd yr awron, ac yn y nefoedd y mae dinasyddiaeth yr aelodau mewn gwirionedd.. Nid mantais i gyd i ysbrydolrwydd a fu canolbwyntio ar Gaer- salem a'i theml. Anfantais i'r Babaeth yn y pen draw ydyw canolbwyntio ar Rhufain, a'r Fatican, a'r Pab. Dy- wedwyd yn ddiweddar gan wr cymwys i farnu, bod holl amgylchedd ac awyrgylch yr UnoH Daleithiau yn wrth- wynebus i'r syniad o ganolij awdurdod y Babaeth mewn pennaeth a man neilltuol yn Ewrop. Nid yw Cristnog- aeth i'w lleoli mewn unrhyw adeilad na mangre daearol. Nid yw'r Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwy- law." Trwy ddSnistr Jerusalem datguddüwyd mai nid rhywbeth mewn lle gosodedig ydyw canolfan yr Eglwys