Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHWERTHIN. I. ATHRONIAETH CHWERTHIN. ATHRONIAETH unrhyw beth ydyw ei hanes, ei achos; ol- rheinier ei hanes i'w achos a deallir ei athroniaeth. Y mae hyn yn wir am bob gwrthrych, ym myd defnydd a meddwl. Ond cyn mynd ymlaen i geisio dadansoddi chwerthin, dylid sylwi yn gyntaf mai dyn yn unig sydd yn feddiannol ar y gallu hwn, ac fod ei iaith yn gyffredin i bob cenedl a phobl. Mae'n wir y clywir weithiau drwy rydd gyfaddas- iad iaith, yr holl fydysawd yn cael ei ddarlunio fel yn dad- seinio gan chwerthin. Disgrifir yr adar yn chwerthin yn y llwyni, yr wyn yn chwerthin ar lechweddau'r bryniau a'r mynyddoedd, y ffrydiau a'r afonydd yn chwerthin ar eu ffordd i'r môr; a'r haul, y lloer a'r ser yn chwerthin yn y ffurfafen. Ceir enghraifft Feiblaidd o hyn yn narluniad Esaia'r Ail 0 lawenydd yr Iddewon yn dychwelyd i'w gwlad o gaethiwed Babilon Mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y'ch arweinir; y mynyddoedd a'r bryn- iau a floeddiant ganti o'ch blaen, a holl goed y maes a gurarit ddwylaw." Ond a siarad yn fanwl, dyn yn unig yn ein byd ni sydd yn medru chwerthin. Y mae gwartheg yn gallu beichio, meirch wehyru, defaid frefu, cathod fewian, cwn gyfarth, mwnceiod glegar, ieir glochtar ac adar ganu, ond nid oes un ohonynt yn gallu croesi'r llinell i fyd y digrifol a chwerthin. Ond mae tisian a phesychu yn gyffredin i ddyn a chreaduriaid islaw iddo, swyddogaeth y rhai ydyw bwrw allan bethau sydd niweidiol i'r cyfansoddiad. Y mae chwerthin hefyd yn fanteisiol i iechyd, ond paham y cyfyngir y gallu i ddyn yn unig ? Dychwelwn at y cwes- tiwn hwn ym mhellach ymlaen. I ddeall ystyr chwerthin rhaid cael allan beth ydyw yr elfen sylfaenol yn y digrifol. Pan gofir fod meddylwyr mawr yr oesau wedi ymdrechu yn aflwyddiannus i fesur i'w elfennu a'i egluro, ni fyddai ond ynfydrwydd i ni geisio gwneud. Mae'r ffaith, fel y crybwyllasom, mai rhagorfraint per- thynol i ddyn yn unig ydyw chwerthin, yn profi fel y dy- wed Henri Bergson, nad ydyw y digrifol yn bod o gwbl ar