Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLE Y TEULU FEL GALLU DROS DDIRWEST A PHURDEB. CYMER y testun yn ganiataol rai gosodiadau pwysig y byddai yn werth eu crybwyll ar y cychwyn. (a) Yn gyntaf oll, cymerir yn ganiataol mai o blaid Dirwest a Phurdeb y dylai y teulu fod. Yn ol y testun gallu dros Ddirwest a Phurdeb sydid i drigo yn y teulu. Ni ddylid cau llygaid ar yr ystyriaeth ddifrifol y gall y teulu fod yn allu yn erbyn y rhinweddau gwerthfawr* hyn; ac y mae i'w ofni mai dyma y ffaith am lawer o deuluoedd ein gwlad. Fel mai nid di-alw amdano ar ddalenau y TRAETH- ODYDD yw datganiad o'n hargyhoeddiad dwfn y dylai pob teulu yn ein plith fod yn gryf ym mhlaid sobrwydd a di- weirdeb. (b) Dywedir hefyd yn y testun y rhaid wrth allu dros Ddirwest a Phurdeb. Ac y mae yn werth pwysleisio y gwirionedd hwn. Ni allwn anghofio ein bod yn y frwydr o blaid y rhinweddau yma wyneb yn wyneb a galluoedd gwrthwynebus; ac na buont erioed yn lliosocach, yn gryf- ach, naej yn fwy unedig a phenderfynol. Y mae yn ein teyrnas nerthoedd cryfion yn erbyn Dirwest; a chodir cwr y llen weithiau ar y galluoedd uffernol sydd yn amcanu difwyno diweirdeb ein bechgyn a'n genethod hawddgar. Ac i gyfarfod y galluoedd gwrthwynebus yma nid oes ond galluoedd cryfach all fod! yn drech na hwy. (c) Drachefn, y mae y testun yn awgrymu gosodiad arall ddylai fod yn llawn o gysur i ni. Y mae y pwyslais roddir yma ar y teulu fel gallu o blaid y rhinweddau hyn yn awgrymu fod yna alluoedd eraill o'u plaid. Un gallu ym mhlith lliaws o alluoedd eraill yw y teulu. A hyfrydi yw cydnabod hynny yn ddiolchgar. Y mae y pulpud o'u plaid yn yr ymdrech hon; y mae y Cymdeithasau Dirwestol o'u plaid; ac yn ddiweddar ceir arwyddion amlwg fod hardd lu y meddygon yn brysur yn ymuno o'n hochr ni. Cafwyd dirprwyaeth o brif feddygon y deyrnas dro yn ol i gymell y Llywodraeth i ddysgu egwyddorion iechyd a sobrwydd i'n plant yn yr ysgolion dyddiol, a llwyddiasant yn eu hamcan. Pe ceid ein meddygon i bregethu Dirwest a Phurdeb yn ein claf-ystafelloedd ac yn ein hysbytai; a phe cai ein plant eu hegwyddori yn egwyddorion Dirwest a Phurdeb yn ein hysgolion, buan yr enillid y fudd'ugol-