Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IOAN JONES O RHUTHYN. I. Er mai teiliwr oed'd Ioan Jones wrth gelfyddyd, ni allaf osgoi y demtasiwn o osod ei hynodrwydd mewn man arall. Pa faint o gamp oedd arno fel dilledydd, nid wyf yn gwy- bod. Ni chlywais gwyno erioed am ei fod wedi methu ffitio unrhyw gorff, na chwaith ganmol ei fod yn gallu gwella ffurf ambell un wrth ei wisgo. Cymeradwy ei waith fel ei gymeriad; gonest ei law fel ei galon; cyson ei fywyd fel ei fuchedd; a rhoddai ei oreu yn ei waith fel yn ei galon. Gallem feddwl mai ymhlith y "rhai diniwed" y rhestrid ef gan y plant pan yn blentyn. Yn cysgu hanner ei am- ser, ac yn breuddwydio yr hanner arall. Cysgai y nós a breuddwydiai y dydd. Ni wyddai beth a wnai, ac ni wyddai neb arall. Yr oedd yn destun sylw'r plant, er nad oedd ond rhyw flwch gwag yn eu syniad; eto, yr oedd swn y gwacter yn creu awydd ynddynt am ei agor. Awydda plant yn eithafol am gael gweld tu fewn i bopeth y mae do arno. Er y credent nad oedd' dim yn eu cyfaill Ioan, eto ni allent fod yn llonydd iddo; a cheisient fynd i fewn i'w gyfrinach, ond ni chaent ddim ganddo ond rhyw winc ddireidus, oedd blanedig yn ei natur gan ei Greawdr. Dotiai hon holl blant y dre. A'i lygad y siaradai â hwy yr adeg honno. laith ei galon yn ei lygad. Credwn iddo adael yr ysgol cyn i'r plant gael llawer ohono. Robert a Hannah Jones oedd enwau ei rieni. Pobl gyffredin, yn byw yn onest, heb addoli mewn unrhyw fan. Uchelgais pobl y dyddiau hynny, yn y cyffredin, oedd byw yn rhyw ddi-ddrwg ddi-dda," ac os gallent wneud hynny heb fod gan neb ddim i'w ddywedyd amdanynt, yr oedd- ynt yn llwyddo i gyrraedd nod uchaf eu hawyddfryd. Tu ol i'w bwthyn safai y Castell, ac o'i naen! gapel y Wesle- aid, a elwid yn Gapel y Felin." Nid oedd y naill na'r llall o fawr bwys iddynt. Prin y sylweddolent eu ,bod yno. Ni byddent byth yn troi i'r Castell am gardod, nac i'r Capel am ymgeledd. Nid oes garreg o'r hen dy yn aros, na chwaith o'r hen gapel; a heddiw cyrch llu i'r hen gastell am iechyd.