Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TALIESIN O EIFION. ANERCHIAD GERBRON CYMDEITHAS LLEN, LLANGOLLEN. Yr wyf er's tro wedi bod yn dirgel synied amdanom fel ardalwyr nad ydyw ymhongarwch yn nodwedd mor amlwg arnom ag ydyw ar drigolion llawer o fannau. Praw o hynny ydyw y ffaith mai anfynych y gwelir ysgrif am wyr o nod ac o ddefnyddioldeb a dreuliasant eu bywyd yn y rhanbarth hwn. Mae ambell ardal yn ein gwlad y ceir ei dynion yn dygnu ysgrifennu yn ddiddiwedd ar ei gwyr o nod, nes bron beri i ddyn waeddi, fel y gwneir weithiau wrth dywalltwr te, way." Er hynny parod wyf i gydnabod bod gennym rywbeth i'w ddysgu oddi wrth y bobl hyn. Llawenydd gennyf i gyfrol o gyfansoddiadau Taliesin o Eifion gael ei chyhoeddi flwyddyn a hanner yn ol. Gresyn na fuasai wedi ei dwyn allan flynyddoedd lawer yn gynt, ond gwn mai diofal iawn oedd y bardd a gadw copi o'i gyfansoddiadau, fel mai nid gwaith hawdd gaf- odd y mab i'w casglu ynghyd. Dywedir mai oddiar gefn casiau llythyrau y copiwyd yr awdl i'w hanfon i gystadleu- aeth y Gadair yng Ngwrecsam. Ond gwell hwyr na hwyr- ach, a, thrwy ddygiad allan y gyfrol mae John Llewelyn Jones wedi cyfiawnhau yr enw oedd gennym arno pan yn fachgen, sef Johnny Taliesin. Cymerodd Thomas Jones ei ffugenw Taliesin o Eifion," oherwydd mal ym mhlwyf Llanystumdwy yn Eifionydd y'i ganed, mewn ty o'r enw Ty'nygors, sydd oddeutu milltir a hanner o'r pentref, ynghyfeiriad ac heb fod ymhell o orsaf Llangybi. Dywedai'r diweddar Edward Davies y Dergoed iddo ef gael ei eni ar y 15 o fis Ebrill, 1820, a bod Taliesin wedi ei eni o fewn wythnos, ymlaen neu yn ol, i'r dyddiad hwnnw. Ond dywedir yn y llyfr iddo gael ei eni ar y I3eg o Fedi y flwyddyn honno, a dylai y teulu fod yn gwybod. Enwau ei rieni oedd John ac Elisabeth Jones, ac efe oedd eu hunig blentyn. Sym- udodd y teulu o Eifionydd i Langollen yn y flwyddlyn 1826. Tua'r un flwyddyn symudodd gwr a gwraig o'r Cefn- mawr i Borthmadog a chanddynt fachgen o oedran cyff-