Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TUEDDIADAU DIWEDDAR MEWN LLENYDD- IAETH GYMREIG YN EU PERTHYNAS A CHREFYDD.* DIAU mai wrth lenyddiaeth ddiweddar y golygir yr un a ddaeth i fwy neu lai o fri yn ystod y chwech neu'r saith mlynedd diweddaf. A siarad yn gyffredinol nid rhyw lawer o gydymdeimlad sydd rhwng y math yma ar lenydd- iaeth a chrefydd. Y'mddengys hynny'n rhyfedd hcfyd o gofio mai plant crefydd yw'r mwyafrif os nad y cwbl o'r llenorion. Ar eu bronnau hi y cawsant en magu a rhwng ei magwrydd hi y dygwyd hwy i fyny. Rhy brin y buas- ai'r rhelyw ohonynt yn y safleoedd anrhydeddus a ddelir ganddynt heddiw oni bae am ei dylanwad hi. Ni wiw celu nad trwy ymyriad rhyw Eli rhwng muriau'r deml y caf- odd llawcr talent ddisglair ei deffro, ond rhyfedd mor fuan y mae Eli a'r deml yn cael eu hanghofio. A phennod brudd yw hon yn hanes Cymru. Nid ychydig o'i meibion mwyaf athrylithgar sy'n cymryd mantais ar grefydd i ddringo i enwogrwydd, ac wedi cyrraedd cyrrau'r wlad yn cefnu arni os nad yn ymroi i'w dilorni. Diddorol fuasai gwybod pa nifer o gynghorwyr, athrawon a seneddwyr y genedl sy'n mynychu unrhyw Ie o addoliad gyda gradd o gysondeb. Oni ddylai'r ttrddasolion hyn dramwy llwybr- au'r cysegr yn amlach pe na bae o ddim ond o barch :'r werin grefyddol, yr hon wedi'r cwbl yw ffon bara y rhan fwyaf ohonynt A thybed nad yw'n bryd i rywun ofyn- a yw crefydd yn cael y gefnogaeth a ddylai oddiwrth ein meibion a'n merched dysgedig mewn tref a gwlad ? Gwir fod eithriadau gogoneddus, ond dymunol fuasai cael rhagor ohonynt. Gallasem wneuthur yn rhwydd ag ych- waneg o wýr o fath Tom Ellis a Syr Owen M. Edwards. Gwyr yn cyfuno'r eithafion. Y naill yn ieuo Sant Steffan yn Llundain a'r cyfarfod gweddi syml yng Nghefnddwy- sarn, a'r llall yn cyplysu diwylliant Rhydychen a'r Ysgol Sul ddi-addurn yn Llanuwchllyn. Os nad yw addysg yr oes i fod o wasanaeth i'n bywyd uchaf, gwae ni. Gwell Papur a ddarllenwyd yng Nghyfarfod Gweinidogion Môn yn Llangefni, Rhagfyr, 1925.