Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

am rywbeth y maent yn galw'n uchel am fwy o realiti rhwng muriau'r deml. A gwyn fyd na ddeuai'r gwyr llen a lleyg, y beirdd a'r pregethwyr, i sylweddoli fwy-fwy realiti pechod a'r unig ffordd ddiogel i hynny yw nid trwy ddangos hacrwch y drwg, eithr trwy bortreadu swyn y da. Brysied y dydd y bydd pob salm ac awdl, pob emyn a chan yn ddyrchafol eu tôn ac yn foddion cymwys i arwain meddwl cyfrin oes ar ol oes i wydd Rhosyn Saron a Lili'r Dyffrynoedd. Iesu yw tegwch mawr y byd, A thegwch penna'r nef, Ac y mae'r cyfan sydd o werth Yn trigo ynddo Ef. Llansadwrn, Môn. E. P. ROBERTS. DIRWEST A PHURDEB. O am allu llwyr orchfygu Nwydau aflan natur gas, Glynu beunydd gyda'r Iesu, Teimlo rhin a nerth Ei ras. O mor hyfryd yw atgofio Hen weddiau'r dyddiau fu; Doed yr awel dyner heibio, Er mwyn plant y dyddiau sy. Boed y wawrddydd yn disgleirio I oleuo Cymru dlos; Gwened heulwen purdeb eto Nes y fîy tywyllwch nos. Dring i fyny, haul diwygiad: Moes a rhinwedd lanwo'r wlad; Dangos ini Iesu'n Geidwad, Achub eto Gymru fad. Talysarn. HYWEL CEFNI.