Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEDDYLEG Y DYRFA. MEWN oes fel hon pur anodd y gall dim ddiengyd o afael y meddylegwr. Nid rhyfedd hyn pan ystyriom bobfog- rwydd y wyddor. Calondid nid bychan yw fod cangen o wybodaeth a fu unwaith yn y cymylau megis wedi dis- gyn i'r ddaear fod yn efrydiaeth pobl gyffredin. 'Stori swynol yng nghofnodion y byd yw hanes y tri chwarter canrif diweddaf. Nid am ddim y datblygwyd y gwyddor- au o fewn y cyfnod hwnnw, ac nid am ddim chwaith y cafodd y werin addysg. Profwyd yn y cyfnod chwyldroad meddyliol, ac un o'i ffrwythau fu dwyn i'r amlwg werth a phwysrgrwydd y wyddor feddylegol. Manteisiodd hon ar gynnydd y gwyddorau eraill, a chan ei bod mor ddynol ac mor agos atom, deffrowyd diddordeb y lluaws ynddi. Dyn, wrth gwrs yw pwnc cyntaf meddyleg, ond pair hawliau gwybodaeth a dysg iddo astudio meddyleg peth- au eraill cystal, a gwna hyn yn unol a threfn arferol gwy- ddoniaeth. Gwyr dyn yn bur dda am y byd o'i fewn ei hun; ni all neb wybod hyn yn well nag ef; eithr pan dry ei olwg at fyd tuallan iddo, er meddylegu ar ei wrth- rychau, y cwbl a fedr wneud yw ymresymu yn eu cylch, a thynnu casgliadau oddiwrthynt ar linellau tebygrwydd a chyfatebiaeth (analogy). Gan mai o un gwaed y gwnaeth Duw bob cenedl o ddynion. nid yw deall meddyleg cyd-ddyn ddim mor anodd, ond peth tra gwahanol yw deall meddyleg oath neu aderyn y tô. Y mac toreth o lenyddiaeth ar feddyleg gwahanol bethau wedi dylifo o'r wasg yng nghwrs y blynyddoedd diweddaf. Mor gyffredin yw'r dull hwn o feddwl fel y mae ei ddylanwad ar y nofel a'r ddrama a'r farddoniaeth ddiweddaraf, yn amlwg, ac anaml y clywir pregeth heddiw na bydd delw y meddylegwr arni Canfyddir y dylanwad yn wir hyd yn oed ar glebar y farchnad, y siop, a'r stryd. Tybir y gor-wneir hyn ar brydiau, a dengys y testunau a draethir arnynt yn fynych brinder chwaeth a diffyg syn- nwyr.