Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFYD yr haul hoenus ei ddawns o'r dwyrain, y mae'n araf ddringo'r entrych, ac erbyn hanner dydd, mae wedi bywiogi pob bywyd-er ei fod ambell dro megis yn cudd- io'i wyneb gan wylder tu ol i ambell gwmwl gwlanog. Clywir yr asgell fraith (chaffinch) yntau'n galw'i gymar fwyn oddiar frigyn ffawydden, ac yn rhoddi cân fer,-nes y daw. Clywir tinc metelaidd y betrisen yn y gweunydd, clywir hefyd grychlais y dryw ym môn y gwrych gerllaw. Yng nghoed y glaswydd gwelir y fronfraith yn hedeg, hithau drachefn mewn ymchwil am gymar i dorri ar unrhywiaeth bywyd. Gedy'r robin ei dyddyn am y goedwig,-a'r haul fel pe am ychwanegu arliw arall at ei fron borfforaidd. Y mae glannau'r afon hefyd yn dyst o ddeffroad bywyd yn ei ogoniant. Gwelir y llygadbys yn arddangos ei werth- fawredd ef ymhlith y blodau-drwy amlygu ei seren felen. Ymlawenycha llysieuyn y gwynt hefyd yn ei dymor, ac nid oes un cweryl rhyngddo a'r fioled dlos sy'n tyfu yn ei ymyl. I fyny ar gainc uchaf bedwen arianlliw, yw arfer yr aderyn du bigfelyn o glwydo, a phan ddeffry chwibana nes bo'r goedwig yn diaspedain, er cymell ei gymar i gym- ryd rhan yn nawns ac Ysbryd y Gwanwyn. Canodd pob bardd i Ysbryd y Gwanwyn, ac nid oes yr un hyd yma wedi curo brenhin-fardd yr hen genedl Hebreig yn ei ddisgrifiad byw o Ysbryd y Gwanwyn __‘ ‘ Canys wele, y gauaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith. Gwelwyd blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad." Dichon nad oes yr un bardd heddiw yn cael ei ddyfynnu yn amlach na Shakespeare ar bopeth ymron dyma ddywed ef am dymor y Gwanwyn When daisies pied and violets blue, And lady smocks all silver-white, And cuckoo buds of yellow hue, When shepherds pipe on oaten straws, And merry larks are ploughman's clocks, When turtles tread, and rooks, and daws, And maidens bleach their summer smocks." YSBRYD Y GWANWYN. Do paint the meadows with delight.