Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFYNNON CLAWCOCH. Mynd i nol stenaid o ddwr dros mam I lawr drwy glos y felin, Croesi y bont yn ofalus fy ngham, Siglai mor anghyffredin Mynd dros y gamfa, ac i'r cae gwair, Heibio i'r pren afalau; Rhaid oedd ei basio heb sibrwd gair, Rhag bod Evan Clawcoch rhwng y cloddiau. Heibio i'r hen amaethdy clyd, Yn cofio'r ci-ac yn crynu; Ond ambell dro yn anghofio'r byd, Yn chwifio'r ystên a chanu. Nid oedd eisiau gofyn i neb, Ble mae Y ffynnon Ion adfywiol ? Yr oedd llecyn mwy glas ar waelod y cae, A ffynnon yng nghudd yn y canol. Yr oedd dwr agosach o lawer i'w gael Pe mynnai mam ei gyrchu, Yr oedd nant wrth y ty yn llito'n hael, A llyn gerllaw yn cysgu. A ffrwd y felin yn gwaeddi'n groch Bod dydd yng nghlust y teulu, A ffynnon yn nes na ffynnon Clawcoch, Ac afon yn dolennu. Ond rhaid oedd eu pasio er byrred fy ngham, A chyrchu dwr dros afon Ffynnon Clawcoch oedd y ffynnon i mam, A rhydd i bob dyn ei ffynnon. Peidiwch a'm beio os troaf fy nhraed, Heibio i'r byd agosach, Tipyn o mam sydd o hyd yn fy ngwaed, A ffansi am ddyfroedd purach. NANTLAIS.