Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PEN LAN. COCHYN oedd Richard Lewis; ac er nad etifeddodd namyn lliw ei wallt o ochr ei fam, wrth yr enw Dic Malan yr adwaenid ef drwy ran flaenaf ei oes. Yr hen Falan Pen Lan, fel y'i gelwid, oedd ei fam. Un od oedd hi; ac od oedd ei chopa fflamgoch yn amlygiad teg o gyfansoddiad ei meddwl, eithr nid felly Dic. A glywsoch chwi hanes y dydd y'i llysenwyd ef? Odid na ddarfu oes y llysenwi yn y pedwar ugeiniau, pan 'roedd Bwrdd Ysgol mewn bri, ac y'i cyfrifid yn anfri ped gorfyddai i ambell Gymro swil sefyll ar y fainc a chap Ffwl am ei ben. Un a ai drwy'r gorchwyl hwn yn aml yn ysgol y Bont oedd Richard Lewis; ac os poenydiwyd ys- bryd neb i orhoífi iaith ei fam wele un o'r rhai mwyaf pen- derfynol o'r cyfryw. Pa 'run bynnag, mynych yr atgyfyd cyfoedion antur ein harwr un dydd arholiad blynyddol yn yr oes honno Mr. Watkins, y prifathro, yn anniddig, gorff ac ysbryd, a'r plant oll yn bryderus yng nghylch y farnedigaeth agos. O'r diwedd wele'r arolygydd i mewn: Sais uniaith, syth ei gefn a milwrol yr olwg. Disgynnodd mudandod ar y lle yn deyrnged unfrydol i'r rhyfeddod; mor distaw ydoedd ag y gwelwai rhai rhag ofn i wich brin yn esgid Mr. Watkins dorri'r gosteg. Yn ei dro daeth tro ei ddos- barth ef. Gosodwyd hwynt yn hanner cylch ar y llawr o flaen y ford, ond nid heb beth trafferth. Sylwid fod yr arolygydd wedi sgrifennu'r gair man ar y ford ddu. Yna trodd, ac meddai, gan estyn ei fys at lefnyn pengrych coch,—What is that wordì Y tu ol i'r arolygydd canfu'r llanc y prifathro'n pwynt- io'i fys ato'i hun. "Brest," atebodd Dic. "JIay I try him, sir? Hc's a bit sloiv." Hyn gan yr ysgolfeistr. Wedi cael caniatâd, meddai wrth Dic,- 'Nawr, Richard, gwedwch wrth'r inspcctor beth yw'r gair 'na," gan bwyntio eto ato'i hun. Sgyfaint," meddai Dic, gan ail gynnig.