Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JOHN WILLIAMS, PANTYCELYN. HEBLAW bod y gwr da uchod yn meddu yr anrhydedd o fod yn fab i Beraidd Ganiedydd Cymru, haedda ein sylw ar bwys ei deilyngdod ei hun a'r hyn a wnaeth yn ei ddydd er hyrwyddo Achos yr Arglwydd yn y cylch yr ydoedd yn troi ynddo. Credwn mai da gan ddarllenwyr y Traeth- ODYDD fydd cael crynhodeb o brif ffeithiau ei hanes, yn enwedig y rhai hynny nad oes ganddynt nemor o fantais i ymgydnabyddu a'i holl hanes. Mae'n wir na ddarfu iddo gyrraedd enwogrwydd a defnyddioldeb mawr ei dad, ond eto gellir dweyd ei fod yn fab teilwng o'i dad. Ganwyd ef ym Mhantycelyn ym mis Mai, 1754. Dy- wed y Parch. Maurice Davies, ei fywgraffydd, iddo dder- `` cynsail egwyddorion ei ddysgeidiaeth," gan ei dad. Ond fel y dywed awdur Methodistiaeth Cymru," Gan fod yr hen fardd trwy ystod ei oes yn deithiwr diorffwys,. ac y byddai oddicartref yn fynych yn pregethu yr Efengyl, ac yn gwerthu ei lyfrau, am wythnosau yn olynol, rhaid y byddai ei feibion yn fynych yn cael dysgu goreu medrent wrthynt eu hunain, neu ynte, eu bod yn derbyn hyffordd- iant gan eu mam." Ymddengys iddo amlygu hoffter neilltuol at y Beibl yn blentyn, yr hyn a barodd i'w dad ddweyd amdano, Fe fydd Jack yn wr cadarn yn yr Ys- grythyrau." Anfonwyd ef pan yn bur ieuanc i Ysgol Ramadegol Coedcochion, yr hon a gynhelid gan un John Williams. a ddaeth ar ol hynny yn beriglor Llandeilofau, Sir Frych- einiog. Pan ydoedd oddeutu pymtheg oed symudwyd ef i Ysgol Ramadegol Caerfyrddin. Wedi bod yno tua phed- air blynedd, gwnaeth y fath gynnydd fel yr ystyrid ef yn gydraddi a'i athrawon, ac y teimlent na feddent ddim rhagor o hyfforddiant i'w gyfrannu iddo. Ceir ef wedi hyn am dymor yn hen ysgol anrhydeddus Ystradmeurig. Oddiyno dychwelodd adref; ond sychedai am ragor o ddysg; ac un diwrnod fel yr ydoedd ar ymweliad â Chaer- fyrddin cyfarfu ag Esgob Tyddewi, ac wedi ei foesgyf- arch, mentrodd ei annerch yn y modd canlynol: Fy Ar- glwydd," meddai, "y mae yn hysbys i'ch arglwyddiaeth fy mod wedi dysgu yr oll a allaf yn y sefydliad hwn (gan olygu Ysgol Ramadegol Caerfyrddin), a chan nad wyf